Skip to main content

Hygyrchedd deddfwriaeth

Yn y DU mae’r rhan fwyaf o'r gyfraith ar unrhyw bwnc penodol i’w ddarganfod drwy statudau (Deddfau ac Offerynnau Statudol) niferus ac amrywiol. Mae’r statudau hyn (y cyfeirir atynt weithiau fel y 'llyfr statud’, er gwaethaf y ffaith nad oes yna ‘lyfr’ o’r fath mewn gwirionedd) yn enfawr ac effaith hyn yn aml yw i wasgaru’r gyfraith ar unrhyw bwnc penodol a’i gwneud yn anodd i’w ganfod. Yn ogystal mae enwau’r statudau yn anghyson ac maent wedi’u rhestri yn gronolegol heb unrhyw gyfeiriad at eu cynnwys. Golyga hyn, felly, nad oes unrhyw ffordd hawdd i ddod o hyd i’r holl gyfraith ar bwnc penodol oherwydd fod miloedd o statudau, rhai ohonynt yn ganrifoedd oed, wedi'u trefnu drwy gyfeiriad at bryd y’u pasiwyd neu y’u gwnaethpwyd yn unig.

Mewn perthynas â Chymru mae yna gymhlethdod ychwanegol gan fod llawer o’r gyfraith sy’n berthnasol i Gymru wedi’i ymblethu gyda'r gyfraith sy'n berthnasol i Loegr neu i rannau eraill o'r DU hefyd. Mae rhai darpariaethau yn gymwys yn benodol i Gymru – nid yn unig Deddfau a basiwyd gan Senedd Cymru neu Reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ond hefyd rhai Deddfau neu rannau o Ddeddfau a basiwyd gan Senedd y DU – ac mae rhai darpariaethau yn gymwys yn yr un fath yng Nghymru ag ydynt yn Lloegr neu yng ngweddill y DU.

Hefyd, elfen bwysig o'r system o Lywodraeth yw bod Deddfau a basiwyd gan Senedd y DU a'r Senedd Cymru yn aml yn rhoi pwerau i weinidogion, er enghraifft pwerau i gymryd camau neu benderfyniadau penodol neu i ddeddfu ymhellach (drwy ddeddfwriaeth eilradd). Ond weithiau mae angen i’r darllenydd ddeall materion penodol na ellir eu gweld ar wyneb y Deddfau hyn er mwyn deall y sefyllfa gyfreithiol cywir. Yr enghraifft fwyaf amlwg, a rhywbeth sy'n digwydd yn aml, yw y bydd y darllenydd yn gweld bod Deddf yn roi pwerau i’r "Ysgrifennydd Gwladol", pan nad yw’r sefyllfa mor rhwydd a hynny mewn gwirionedd.

Cyn creu’r llywodraethau datganoledig roedd hyn yn cysyniad cymharol syml lle dyroddwyd pwerau ar (yr un) Swydd o Ysgrifennydd Gwladol cyn eu dyrannu fel y bo'n briodol, er enghraifft, i’r Ysgrifennydd Gwladol dros addysg neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ers 1999, fodd bynnag, gall cyfeiriadau mewn deddfwriaeth i bwerau yr "Ysgrifennydd Gwladol" mewn gwirionedd olygu pwerau sydd wedi eu datganoli (gan eu bod wedi’u trosglwyddo drwy orchymyn yn y Cyfrin Gyngor) i Gymru. Rhwng 1999 a 2007, felly, roedd cyfeiriadau niferus at yr 'Ysgrifennydd Gwladol' mewn gwirionedd yn golygu, mewn perthynas â Chymru, Senedd Cymru; ac erbyn hyn (oherwydd effaith Deddf Llywodraeth Cymru 2006) maent yn golygu Gweinidogion Cymru. Wrth ddarllen y ddeddfwriaeth, fodd bynnag, erys dim ond cyfeiriad at ‘Ysgrifennydd Gwladol’. I ychwanegu at y cymhlethdod hwn mae Deddfau a basiwyd gan Senedd y DU rhwng 1999 a 2007 yn dyroddi pwerau ar Senedd Cymru, a elwid gynt yn 'Gynulliad Cenedlaethol Cymru', er unwaith eto, mai Gweinidogion Cymru sydd bellach yn dal y pŵer.


Mae cyhoeddi statudau yn broblem arall. Yn ddiweddar dim ond cyhoeddwyr masnachol sydd yn cyhoeddi’r holl ddeddfwriaeth sy’n gymwys ar-lein yn ei ffurf gyfredol (neu mewn geiriau eraill, sy’n cyhoeddi statudau ar ffurf sy'n ymgorffori unrhyw newidiadau a wneir iddynt gan statudau dilynol). Mae hyn yn golygu nad yw fersiynau diweddaraf o ddeddfwriaeth Gymreig ar gael heb dalu amdanynt ac nid ydynt ar gael yn yr iaith Gymraeg o gwbl. Crëwyd gwefan llywodraeth newydd o'r enw deddfwriaeth.gov.uk yn 2010 ond fe'i lansiwyd i raddau helaeth gan ddefnyddio fersiynau gwreiddiol o statudau (mewn geiriau eraill heb ymgorffori gwelliannau dilynol). Mae hyn yn cael ei ddatrys ond nid yw'r gwaith wedi'i gwblhau ac o ganlyniad mae angen gofal wrth ddefnyddio’r safle.

Yn fwy cyffredinol mae cyhoeddwyr masnachol sector preifat wedi darparu atebion ers peth amser i lawer o'r problemau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd deddfwriaeth, yn fwyaf amlwg trwy ddarparu fersiynau anodedig gyfredol o ddeddfwriaeth ac hefyd trwy gyhoeddi gwyddoniaduron a chyfnodolion sy’n darparu sylwebaeth ar y gyfraith. Mae hyn, fodd bynnag, yn golygu fod angen talu am y gwasanaethau ac nid yw’r hyn sydd ar gael yn ateb i bopeth. Yn ogystal a hyn nid yw’r gwasanaethau sydd ar gael yn ystyried pob tro yr ystod o gyfreithiau gwahanol sy’n gymwys i Gymru.

O ganlyniad mae Llywodraeth Cymru wedi bod ers cryn amser yn ystyried beth y gellid ei wneud yn ymarferol i wella'r sefyllfa. Ceir tair elfen i'r hyn sy'n cael ei wneud a’i ystyried.

Y cyntaf yw ystyried beth y gellir ei wneud i gydgrynhoi’r gyfraith drwy greu mwy o gyfreithiau Cymreig 'annibynnol' (neu 'llyfr statud i Gymru '). Mae hyn wedi'i wneud i raddau cyfyngedig mewn llawer o’r Deddfau Cynulliad sydd wedi’u pasio ers 2011 ond mae Comisiwn y Gyfraith yn helpu'r Llywodraeth i ystyried beth mwy y gellir ei wneud ac yn edrych ar y costau a'r manteision o gydgrynhoi’r gyfraith yn ei gyfanrwydd, efallai mewn i 'Godau' o'r gyfraith ar bynciau penodol.

Yr ail yw cyfrannu at y gwaith i wella deddfwriaeth.gov.uk (cyfrifoldeb Argraffydd y Brenin a'r Archifau Cenedlaethol).

A'r trydydd yw creu’r wefan hon, ac annog aelodau o'r proffesiynau cyfreithiol i gyfrannu ati fel y bydd yn datblygu yn ffynhonnell gynhwysfawr o sylwebaeth ar gyfraith Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Medi 2022