Meysydd sydd wedi’u datganoli
Cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru
Mae Senedd y DU wedi dirprwyo rhai o’i phwerau deddfu i Senedd Cymru. Mae gan Senedd Cymru y pŵer i basio deddfwriaeth sylfaenol mewn Deddfau Senedd Cymru sydd â statws cyfwerth â Deddfau Seneddol.
Fodd bynnag, mae pwerau deddfu Senedd Cymru yn wahanol i bwerau deddfu Senedd y DU oherwydd un rheswm pwysig. Mae Senedd y DU yn sofran, sy’n golygu bod ganddi’r pŵer i basio deddfau ar unrhyw fater o’i dewis. Nid yw’r Senedd Cymru yn sofran. Corff a lywodraethir gan statud ydyw, sef y Deddf Llywodraeth Cymru 1998 cynt, a bellach y Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006) wedi'i diwygio gan y Deddf Cymru 2014 a'r Deddf Cymru 2017. Mae hyn yn golygu mai dim ond y pwerau deddfu a roddwyd iddo gan GoWA 2006 sydd ganddo.
Mae’r holl feysydd y mae gan y Senedd Cymru y pŵer i basio deddfau yn eu cylch yn cael eu disgrifio fel y meysydd sydd o fewn ei ‘gymhwysedd deddfwriaethol’. Mae adrannau 107 a 108A o GoWA 2006, ac Atodlenni 7A a 7B iddi, yn diffinio graddfa cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf y Senedd sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymrul yn ddeddf ddilys. Mewn perthynas â 22 Mesur a basiwyd rhwng 2008 a 2011, caiff cymhwysedd deddfwriaethol ei llywodraethu gan adrannau 93 a 94 o GoWA 2006, ac Atodlen 5 iddi.
Mae adran 108A(2) yn mynnu bod darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru y tu hwnt i'w gymhwysedd os bydd darpariaeth yn methu un o'r profion a nodir isod.
Dyma’r camau i benderfynu a yw darpariaeth mewn Deddf y Senedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru:
Profion 1 i 5
Prawf 1 (adran 108A(2)(a) o GoWA 2006)
1. Ni all darpariaeth Deddf Senedd Cymru ffurfio rhan o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a Lloegr. Mewn geiriau eraill, rhaid iddi newid y gyfraith yn awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr yn unig. (Peidiwch â chymysgu “rhychwantu” (“extend to”) ac “yn gymwys i” (“apply to”), sef gwahaniaeth pwysig sy'n berthnasol i brawf 2 o dan adran 108A(2)(b).)
Prawf 2 (adran 108A(2)(b) o GoWA 2006)
2. Ni all darpariaeth Deddf Senedd Cymru fod yn gymwys ac eithrio mewn perthynas â Chymru oni bai fod y ddarpariaeth dan sylw yn ategol i ddarpariaeth arall sydd o fewn y cymhwysedd ac nad oes unrhyw effaith sy’n fwy nag sydd ei hangen i roi diben y ddarpariaeth honno ar waith, heblaw am mewn perthynas â Chymru. Dylid nodi mai'r geiriad yn y cyfyngiad hwn yw “mewn perthynas â Chymru” (“in relation to Wales”) nid “yng Nghymru” (“in Wales”). Felly, caiff y ddarpariaeth effaith gyfreithiol yn Lloegr cyhyd â bod rhyw fath o berthynas â Chymru.
Prawf 3 (adran 108A (2)(c) o GoWA 2006) – y prawf diben
3. Ni chaiff darpariaeth Deddf Senedd Cymru ymwneud â mater a gedwir yn ôl. Mae Atodlen 7A i GoWA 2006 yn rhestru'r materion a gedwir yn ôl i Senedd y DU at y dibenion hyn, a dim ond Senedd y DU a all basio deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â'r materion hyn. Mae mater na chedwir yn ôl wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru.
Penderfynir a yw darpariaeth Deddf Senedd Cymru yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl trwy gyfeirio at ddiben y ddarpariaeth, gan ystyried (ymysg pethau eraill) ei heffaith yn yr holl amgylchiadau. Cadarnhaodd y Goruchaf Lys fod yr ymadrodd “ymwneud â” (“relates to”) yn nodi “more than a loose or consequential connection” (Martin v Most [2020] UKSC 10). Ni fydd darpariaeth sy'n cyfeirio at fater a gedwir yn ôl yn unig, neu sydd ag effaith ddamweiniol neu ganlyniadol ar fater a gedwir yn ôl, yn “ymwneud â'r” mater hwnnw a gedwir yn ôl.
Prawf 4 (adran 108A(2)(d) o GoWA 2006)
4. Ni chaiff darpariaeth Deddf Senedd Cymru dorri unrhyw un o'r cyfyngiadau yn Atodlen 7B i GoWA 2006. Mae'r cyfyngiadau hyn yn Atodlen 7B yn cynnwys cyfyngiadau penodol ar ddarpariaeth Deddf Senedd Cymru sy'n addasu'r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, y gyfraith breifat, y gyfraith droseddol a rhai deddfiadau penodol sydd wedi’u diogelu, gan gynnwys y GoWA ei hun. Hefyd, mae cyfyngiadau ar wneud rhai darpariaethau penodedig o ran swyddogaethau ‘awdurdodau a gedwir yn ôl’ heb gydsyniad Gweinidog priodol y DU neu heb ymgynghori ag ef. Fel arfer, y Gweinidog priodol ar gyfer y dibenion hyn fydd yr Ysgrifennydd Gwladol oni bai mai Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yw’r awdurdod dan sylw. Os felly, y Trysorlys fydd hwnnw.
5. Mae paragraffau 8–11 o Atodlen 7B yn gwahaniaethu rhwng awdurdodau cyhoeddus sy’n “awdurdodau datganoledig Cymreig” (“Devolved Welsh Authorities”) a’r rhai sy’n “awdurdodau a gedwir yn ôl” (“reserved authorities”).
6. I grynhoi, mae awdurdod datganoledig Cymreig (a ddiffiniwyd yn adran 157A o GoWA) yn golygu: awdurdod cyhoeddus a restrir yn Atodlen 9A i GoWA 2006; awdurdod cyhoeddus y gellir ymarfer ei swyddogaethau dim ond o ran Cymru ac y maent yn swyddogaethau, yn gyfan gwbl neu yn bennaf, nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl; neu gorff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg uwch (o fewn diffiniad adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) y mae ei weithgareddau’n cael eu cynnal, neu maent yn cael eu cynnal yn bennaf, yng Nghymru.
Fel arfer, nid oes angen cydsyniad os bydd Deddf Senedd Cymru yn rhoi, yn addasu neu'n dileu swyddogaeth awdurdod datganoledig Cymreig.
Yn ogystal â Gweinidog y Goron neu adran Llywodraeth y DU, awdurdod a gedwir yn ôl yw unrhyw awdurdod cyhoeddus nad yw'n bodloni amodau uchod awdurdod datganoledig Cymreig. Yn gyffredinol, bydd angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn i ddarpariaeth Deddf gan y Sendd wneud y canlynol:
- rhoi neu orfodi swyddogaeth ar awdurdod a gedwir yn ôl, neu addasu neu ddileu swyddogaethau awdurdod a gedwir yn ôl;
- addasu cyfansoddiad awdurdod a gedwir yn ôl; neu
- roi, addasu neu ddileu swyddogaeth y gellir ei hymarfer yn benodol mewn perthynas ag awdurdodau a gedwir yn ôl.
Mae paragraffau 9 a 10 yn creu eithriadau i'r rheolau cyffredinol ynghylch rhoi a dileu neu addasu swyddogaethau awdurdodau a gedwir yn ôl. Ni fydd angen cydsyniad wrth roi swyddogaethau i awdurdodau penodol a gedwir yn ôl a restrir ym mharagraff 9(2) a 10(2). Ymhlith enghreifftiau o'r awdurdodau hyn mae'r Comisiwn Etholiadol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Meinweoedd Dynol.
Ymdrinnir â'r sefyllfa o ran dileu neu addasu swyddogaethau Gweinidog y Goron ar wahân ym mharagraff 11. Y rheol gyffredinol yw y gall darpariaeth Deddf Senedd Cymru ddileu neu addasu swyddogaethau Gweinidog y Goron heb gydsyniad ar yr amod nad yw'n perthyn i un o’r chwe chategori o swyddogaethau Gweinidog y Goron a restrir ym mharagraff 11(1)(a). Hyd yn oed pan na fydd angen cydsyniad, eto i gyd bydd angen ymgynghori â Gweinidog priodol Llywodraeth y DU.
Mae Atodlen 7B yn gymhleth. Felly dylid ystyried yn ofalus ac yn fanwl a yw darpariaeth y Bil arfaethedig gan y Senedd wedi torri unrhyw un o'i chyfyngiadau. Er bod nifer o gyfyngiadau yn gyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn egwyddor o fewn Atodlen 7B, mae nifer o eithriadau i'r rheolau cyffredinol hefyd.
Prawf 5 (adran 108A(2)(e) o GoWA 2006)
Ni chaiff darpariaeth Deddf Senedd Cymru fod yn anghydnaws â Hawliau Confensiwn a chyfraith yr UE.
Ymdrin â materion cymhwysedd deddfwriaethol
Datrys ansicrwydd yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol
Os oes ansicrwydd a yw darpariaeth mewn Deddf Senedd Cymru (neu mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf gan y Cynulliad, Deddf Senedd Cymru neu Fesur gan y Cynulliad) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd modd datrys y mater drwy ddehongli’r ddarpariaeth honno mewn ffordd gul. Yn ôl adran 154 o GoWA 2006, hyd yn oed os gellid dehongli darpariaeth mewn ffordd sy’n golygu ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, mae’n rhaid, os oes modd, ei dehongli mor gul ag sydd ei angen iddi fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.
Atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys ar gyfer dyfarniad ar gymhwysedd deddfwriaethol
Weithiau mae’n ofynnol neu’n ddoeth gweithredu er mwyn canfod a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru cyn iddo ddod i rym.
Mae gan y Cwnsler Cyffredinol (ar gyfer Cymru) a’r Twrnai Cyffredinol (ar gyfer y DU) y pŵer i atgyfeirio Bil gan Senedd Cymru, neu ddarpariaeth o fewn Bil gan y Senedd Cymru, neu p’un a yw unrhyw un o'i ddarpariaethau'n cyfeirio at fater gwarchodedig, i’r Goruchaf Lys er mwyn cael penderfyniad ar a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru (gweler adrannau 111B a 112 o GoWA). Mae’n rhaid gwneud unrhyw atgyfeiriad yn ystod y pedair wythnos ar ôl i’r Bil gael ei basio gan y Senedd, sef cyn iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf Senedd Cymru.
Hyd yn oed os oes llawer iawn o hyder bod Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, mae’n bosibl y bydd yn cael ei atgyfeirio i’r Goruchaf Lys naill ai at ddibenion sicrwydd neu oherwydd y rhagwelir y bydd Deddf Senedd Cymru sy’n deillio o’r Bil yn debygol o gael ei herio ar sail cymhwysedd deddfwriaethol pan ddaw i rym.
Mae’r pŵer i atgyfeirio i’r Goruchaf Lys eisoes wedi’i ddefnyddio ar sawl achlysur.
Mae rhagor o wybodaeth am y Biliau a atgyfeiriwyd a’r penderfyniadau a wnaed gan y Goruchaf Lys ar gael yma.
Defnyddio Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i unioni deddfau ultra vires
Mae adran 151 o GoWA 2006 yn cynnwys mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i unioni’r sefyllfa lle y nodir bod Deddf Senedd (neu Ddeddf neu Fesur y Cynulliad), neu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Senedd (neu Fesur) Cynulliad y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, neu fod posibilrwydd o hynny. Mae modd ei defnyddio hefyd i unioni’r defnydd amhriodol o swyddogaeth a roddwyd o dan Ddeddf Senedd (neu Ddeddf neu Fesur y Cynulliad).
O dan adran 151, gall Ei Fawrhydi wneud Gorchymyn y Cyfrin Gyngor i wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn ei barn hi o ganlyniad i’r diffyg cymhwysedd deddfwriaethol (neu gyflawni’r swyddogaeth yn amhriodol). Yn benodol, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ddiwygio unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys Deddf Senedd (neu Deddf neu Fesur y Cynulliad) dan sylw. Mewn geiriau eraill, gall Gorchymyn y Cyfrin Gyngor gael ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Senedd Cymru sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol.
Codi mater datganoli ar ôl i Ddeddf Cynulliad gael ei phasio
Er mai pedair wythnos sydd ar gael i atgyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys o dan adrannau 111B neu 112, os nad yw’r Bil wedi’i atgyfeirio ar ôl pedair wythnos, nid yw’n golygu na ellir herio’r Ddeddf Cynulliad sy’n deillio o’r Bil ar y sail ei bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol.
Nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gan y Senedd (neu Ddeddf neu Fesur gan y Cynulliad) sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn ddeddf ddilys (adran 108A(2) o GoWA 2006 ac adran 108(2) o GoWA 2006 o ran Deddfau gan y Cynulliad a basiwyd cyn 1 Ebrill 2018, neu adran 94(2) mewn perthynas â Mesurau gan y Cynulliad). Gall unigolyn geisio herio dilysrwydd darpariaeth mewn achosion cyfreithiol.
Mae Atodlen 9 i GoWA 2006 yn nodi’r darpariaethau ar gyfer ymdrin â ‘materion datganoli’, ac un o’r rhain yw cymhwysedd deddfwriaethol. O dan Atodlen 9, mae ‘mater datganoli’ yn golygu unrhyw un o’r canlynol:
- a yw darpariaeth Deddf Senedd Cymru, Deddf neu Fesur Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol,
- a yw swyddogaeth yn ymarferadwy gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol,
- a yw’r posibilrwydd o ymarfer swyddogaeth o fewn pŵer Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol, gan gynnwys y cwestiwn a fyddai ymarfer y swyddogaeth honno yn cydymffurfio â chyfraith yr UE neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,
- a yw Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol wedi methu cyflawni dyletswydd a orfodwyd arnynt (gan gynnwys dyletswydd o dan gyfraith yr UE),
- a yw methiant i weithredu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol yn golygu eu bod wedi ymddwyn yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mae Atodlen 9 yn cynnwys gwybodaeth am ba lys a fydd yn penderfynu ar fater datganoli sy’n deillio o unrhyw achos cyfreithiol, ac mae’n caniatáu i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol ymwneud â’r achos i’r graddau y mae’n ymwneud â’r mater datganoli. Hefyd, mae gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Twrnai Cyffredinol y pŵer o dan Atodlen 9 i atgyfeirio mater datganoli i’r Goruchaf Lys, hyd yn oed os nad yw’n destun achos cyfreithiol.
Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd
Mae adran 114 o GoWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud gorchymyn i atal Clerc Senedd Cymru rhag cyflwyno Bil gan y Senedd ar gyfer Cydsyniad Brenhinol os oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol i gredu y byddai unrhyw ddarpariaethau yn y Bil:
- yn cael effaith niweidiol ar unrhyw fater sydd heb ei ddatganoli,
- yn cael effaith niweidiol difrifol posibl ar adnoddau, cyflenwad neu ansawdd dŵr yn Lloegr,
- yn cael effaith niweidiol ar weithredu’r gyfraith yn Lloegr,
- yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol neu fuddiannau amddiffyn neu ddiogelwch gwladol.
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol amser cyfyngedig i wneud gorchymyn o dan adran 114, sef o fewn 4 wythnos i’r Bil gael ei basio gan Senedd Cymru fel arfer (neu, os yn berthnasol, o fewn 4 wythnos ar ôl i’r Goruchaf Lys benderfynu a yw’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol).
Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ganlyniadol
Mae adran 150 o GoWA 2006 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud unrhyw ddarpariaethau sy’n briodol yn ei farn ef o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Senedd, Deddf (neu Fesur) y Cynulliad, neu o unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Senedd, Ddeddf (neu Fesur) Cynulliad neu gan Weinidogion Cymru.
Mae’r pŵer hwn yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol, ymysg pethau eraill, i wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfau eraill y DU os oes angen gwneud hynny i sicrhau eu bod yn ‘cyd-fynd’ â deddfau a wnaed yng Nghymru. Yn bwysig, ni all yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio’r pŵer hwn i wneud darpariaeth ynglŷn â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban.