Skip to main content

Rheolaeth y gyfraith

Mae rheolaeth y gyfraith yn egwyddor sylfaenol sy'n sail i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Gallwn feddwl am hyn mewn ffyrdd gwahanol:

  • Fel egwyddor am ddiogelu hawliau a rhyddid. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i hawliau a rhwymedigaethau’r unigolyn gael eu pennu gan y gyfraith, i gamweddau cael eu cosbi yn ôl y gyfraith ac i bawb fod yn ddarostyngedig i’r gyfraith.
  • Fel egwyddor ynghylch cyfreithlondeb sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i bopeth gael ei wneud yn unol â'r gyfraith. Er enghraifft, ni ddylai awdurdod cyhoeddus wneud rhywbeth sy'n effeithio ar hawliau neu ryddid yr unigolyn (e.e. penderfynu gwrthod caniatâd cynllunio) onid yw Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Cymru wedi rhoi awdurdod iddo wneud hynny, naill ai mewn Deddf Seneddol DU neu Ddeddf Senedd Cymru neu’n anuniongyrchol drwy is-ddeddfwriaeth.
  • Fel egwyddor ynglŷn â sicrwydd a'r gallu i ragweld ac atal cam-drin pŵer disgresiwn. Mae rheolaeth y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethu gael ei wneud o fewn fframwaith sefydlog o reolau ac egwyddorion sy'n gosod cyfyngiadau priodol ar arfer pŵer. Dyna pam mae’r  farnwriaeth wedi datblygu cyfres o reolau cyfraith weinyddol y mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu harddel wrth arfer pwerau disgresiwn.
  • Fel egwyddor ynghylch annibyniaeth farnwrol, neu na ddylai neb fod yn farnwr yn ei achos ei hun. Felly, mae anghydfodau ynghylch cyfreithlondeb rhywbeth a wneir gan y llywodraeth yn cael eu penderfynu gan farnwriaeth sy'n annibynnol ar y llywodraeth.
  • Fel egwyddor ynghylch tegwch rhwng y llywodraeth a'i dinasyddion. Mewn geiriau eraill, yn gyffredinol dylai cyrff cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i’r un dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol ag unigolion, oni bai fod hyn yn anghyson â'u swyddogaethau fel llywodraeth.
  • Fel egwyddor ynglŷn â mynediad at gyfiawnder. Mae rheolaeth y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i weithdrefnau ar gyfer penderfynu ar anghydfodau cyfreithiol fod yn deg, ac ni ddylai fod unrhyw oedi gormodol neu gost afresymol.
  • Fel egwyddor ynghylch cynnal hawliau dynol sylfaenol a chydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â'i rhwymedigaethau o dan gyfraith ryngwladol.
  • Fel egwyddor ynghylch sut mae'r gyfraith yn cael ei chofnodi a'i chyhoeddi. Mae rheolaeth y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i’r gyfraith gael ei hysgrifennu mewn iaith sydd, cyn belled ag y bo modd, yn glir ac yn rhydd o amwysedd. Mae'n rhaid i gyfreithiau osgoi gwrthddweud a rhaid iddynt beidio gorchymyn yr amhosibl.  Rhaid i gyfreithiau edrych ymlaen (yn ddarpariaethol), mewn geiriau eraill ni ddylent fod wedi’u hôl-ddyddio (yn ôl-weithredol). Rhaid i gyfreithiau fod ar gael i bawb hefyd.

Rhaid dilyn rheolaeth y gyfraith ym mhob cam o'r broses o greu cyfreithiau. Mae'n berthnasol wrth benderfynu ar gynnwys cyfreithiau, wrth ddrafftio cyfreithiau a phan fydd cyrff cyhoeddus a'r llysoedd yn gweinyddu a gorfodi'r gyfraith.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021