Skip to main content

Senedd Cymru

Sefydlwyd Senedd Cymru (a elwid gynt yn Cynulliad Cenedlaethol Cymru), gan adran 1(1) o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006):

“There is to be an Assembly for Wales to be known as the National Assembly for Wales or Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

Ychwanegodd y Ddeddf Cymru 2017 (Deddf 2017) Adran A1 at GoWA 2006 a sefydlodd y (nawr) Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y DU.  

 

Mae adran A2 o GoWA 2006, fel y'i hychwanegir gan WA 2017, yn cydnabod corff unigryw o gyfraith Gymreig a wneir gan Senedd Cymru a chan Weinidogion Cymru.
 

Mae Senedd Cymru yn cynnwys 60 o Aelodau; 40 o Aelodau etholaethol sy’n cael eu hethol ar sail y cyntaf i’r felin, ac 20 o Aelodau rhanbarthol sy’n cael eu hethol ar sail math o gynrychiolaeth gyfrannol. Swyddogaethau allweddol Senedd Cymru yw, yn gyntaf, pasio Deddfau yn unol â’i gymhwysedd deddfwriaethol fel y’i nodir yn adran 108A o GoWA 2006 ac Atodlenni 7A a 7B iddi.

Swyddogaeth bwysig arall sydd gan Senedd Cymru yw i ddal Llywodraeth Cymru a chyrff eraill datganoledig yng Nghymru  i gyfrif. Yn unol â hynny, fel y nodir yn adran 37 o GoWA 2006, gall Senedd Cymru alw'r Gweinidogion Cymru ac eraill o’i flaen at ddibenion craffu. Ymhellach, mae'r Senedd Cymru yn cymeradwyo cyllideb blynyddol Gweinidogion Cymru.

Gan fod Senedd Cymru yn gymdeithas anghorfforedig o’r Aelodau, sefydlwyd Comisiwn y Senedd gan adran 27 o GoWA 2006 i ddal hawliau a rhwymedigaethau eiddo. Mae Comisiwn y Senedd yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Senedd arall (gweler adran 27(2)). Yn unol ag adran 27(5) o GoWA 2006, mae’n rhaid i’r Comisiwn ddarparu eiddo, staff a’r gwasanaethau gofynnol i’r Senedd Cymru.

Deddfau Senedd Cymru

O ganlyniad i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw i Senedd Cymru ym mis Mai 2020. Yna daeth unrhyw Ddeddfau a wnaed gan Senedd Cymru yn dilyn y newid hwn yn Ddeddfau Senedd Cymru. Mae'r holl Ddeddfau a wnaed cyn newid enw yn parhau i fod yn Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Deddf Cynulliad). Rhaid i Ddeddf Senedd Cymru fod o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol, fel y nodir yn adran 108A o ac Atodlenni 7A a 7B i GoWA 2006. Fel y darperir yn adran 108A (1) o GoWA 2006, ni fydd unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Senedd Cymru sydd tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol yn gyfraith.

Mae adran 107 yn datgan:

“(1) The Assembly may make laws, to be known as Acts of the National Assembly for Wales or Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (referred to in this Act as “Acts of the Assembly”).

(2) Proposed Acts of the Assembly are to be known as Bills; and a Bill becomes an Act of the Assembly when it has been passed by the Assembly and has received Royal Assent.

(3) The validity of ân Act of the Assembly is not affected by any invalidity in the Assembly proceedings leading to its enactment.

(4) Every Act of the Assembly is to be judicially noticed.

(5) This Part does not affect the power of the Parliament of the United Kingdom to make laws for Wales.”

(6) But it is recognised that the Parliament of the United Kingdom will not normally legislate with regard to devolved matters without the consent of the Assembly.”


Mae Deddfau Senedd Cymru yn ddeddfwriaeth sylfaenol, ac mae ganddynt yr un statws â Deddfau gan Senedd y DU. Yn yr un modd â Deddfau gan Senedd y DU, ni ellir eu herio ar sail cyfraith gwlad fel arfer (gweler achos AXA General Insurance Ltd & Others v The Lord Advocate & Others, [2011] UKSC 46).

Mae llawer o Ddeddfau Senedd Cymru wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ers i’r Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) ennill y pŵer i basio Deddfau yn 2011. Mae’r Deddfau’n ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion datganoledig yn cynnwys addysg, amaethyddiaeth, llywodraeth leol, trawsblannu dynol, archwilio a thai.

Pwyllgorau

Un o swyddogaethau pwysig Senedd Cymru yw craffu ar waith Llywodraeth Cymru. Gall y gwaith craffu hwn gael ei wneud mewn dadl yn y cyfarfod llawn, ond mae pwyllgorau’r Senedd Cymru hefyd yn craffu ar waith Senedd Cymru. Mae gan y Senedd Cymru ddeuddeg pwyllgor ar hyn o bryd gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Rheolau sefydlog

Mae trafodion Senedd Cymru yn cael eu rheoleiddio gan reolau sefydlog (yn unol â gofyniad adran 31 o GoWA 2006) sy’n cael eu cyhoeddi gan Glerc Senedd Cymru. Caiff y rheolau sefydlog eu diweddaru’n rheolaidd, felly mae’n bwysig edrych ar wefan Senedd Cymru am y fersiwn ddiweddaraf.

Mae’r rheolau sefydlog yn cynnwys popeth o lwon o deyrngarwch yr Aelodau i fusnes mewn pwyllgorau a’r cyfarfod llawn i’r gweithdrefnau ar gyfer ystyried a phasio Deddfau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Deddfwriaeth y DU o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru

Er bod gan Senddd Cymru y pŵer i basio deddfwriaeth sylfaenol yn ymwneud â materion na chedwir yn ôl gan Atodlen 7A, mae Senedd y DU yn cadw sofraniaeth a phŵer i lunio deddfau yn ymwneud â Chymru (gweler adran 107(5) o GoWA 2006).

Fodd bynnag, mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n nodi na fydd Llywodraeth y DU yn gofyn i Senedd y DU ddeddfu ar fater sydd wedi’i ddatganoli fel arfer heb gydsyniad Senedd Cymru. Os yw Senedd y DU i ddeddfu ar fater sydd wedi’i ddatganoli, bydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno yn Senedd Cymru fel arfer er mwyn i Senedd Cymru bleidleisio o blaid, neu yn erbyn, rhoi cydsyniad i ddarpariaeth Bil y DU.

Cafodd y confensiwn o beidio â deddfu fel arfer ar faterion o fewn cymhwysedd Senedd Cymru ei gynnwys yn GoWA 2006 (yn adran 107(6) gan WA 2017). Fodd bynnag, er gwaethaf cydnabod y confensiwn mewn statud, mae'r Goruchaf Lys wedi mynnu (yn achos Miller) na all y Llysoedd ei orfodi yn y bôn gan ei fod wedi'i ddiystyru gan gydsyniad trosfwaol sofraniaeth Seneddol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021