Skip to main content

Cyllid llywodraeth leol

Mae incwm refeniw llywodraeth leol yn deillio’n bennaf o’r dreth gyngor, trethi annomestig a grantiau’r llywodraeth, a’r mwyaf ohonynt yw’r 'grant cynnal refeniw'.  Gall prif gynghorau a chynghorau cymuned hefyd dderbyn incwm o ffioedd, taliadau a buddsoddiadau.

Mae gan Weinidogion Cymru rôl oruchwyliol gyffredinol mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol. Mae’r gyfraith i’w gweld mewn nifer o ddeddfau gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1972Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac 1992. Mae mwyafrif swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y deddfiadau hyn wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac felly mae ganddynt amrywiaeth o bwerau gweithredol i bennu sut i ariannu llywodraeth leol a sut dylid gweinyddu cyllid.

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae’n ofynnol i bob prif gyngor sefydlu a chynnal cronfa, a rhaid talu’r holl daliadau a dderbynnir ac a delir i mewn ac allan o’r gronfa hon (ac eithrio trafodion sy’n ymwneud â chronfeydd ymddiriedolaeth). Mae’n ofynnol i brif gynghorau gadw cyfrifon o’r holl drafodion sy’n ymwneud â chronfa eu cyngor hwy.

Mae’n ofynnol i brif gynghorau weinyddu eu trafodion ariannol yn gyfrifol. O dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae cynghorau’n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau rheoli mewnol cadarn sy’n eu hwyluso i arfer eu swyddogaethau’n effeithiol.

Trethi annomestig a’r dreth gyngor yw’r dulliau a ddefnyddir gan brif gynghorau i gasglu arian oddi wrth eiddo domestig ac annomestig yn eu hardal. Sefydlwyd y dreth annomestig trwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) a’r dreth gyngor trwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddf 1992). Mae mwyafrif y swyddogaethau a ysgwyddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Deddfau hyn, i’r graddau y gellid eu harfer yng Nghymru bellach yn ymarferadwy gan Weinidogion Cymru. Rhaid sicrhau’r gyfraith gyfredol trwy droi at nifer o offerynnau statudol, yn ogystal ag at y Deddfau eu hunain.

Trethi annomestig

Fel rheol, codir trethi annomestig, y cyfeirir atynt weithiau yn 'drethi busnes', ar feddianwyr neu berchnogion eiddo annomestig. Mae prif gynghorau (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) yn 'awdurdodau bilio' o dan Ddeddf 1988 ac maent yn casglu ac yn adennill trethi annomestig. Mae cyfanswm y trethi annomestig sy’n ddyledus yn dibynnu ar werth trethadwy eiddo. Pennir gwerth trethadwy ar sail yr egwyddorion a nodir yn Ddeddf 1988.

Mae gan Weinidogion Cymru’r pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau yn nodi sut caiff trethi annomestig eu codi a’u gweinyddu. Rhagnodir swm y dreth gan Weinidogion Cymru y gallent bennu lluosydd bob blwyddyn i’w ddefnyddio i gyfrifo’r swm sy’n ddyledus.

Er mai’r awdurdodau bilio sy’n gyfrifol am gasglu trethi annomestig, mae’r holl daliadau a dderbynnir yn cael eu cronni’n ganolog a’u hailddosbarthu gan Weinidogion Cymru i’r awdurdodau bilio a’r prif awdurdodau praeseptio. Mae sail y dosbarthiad yn cael ei nodi yn yr adroddiad blynyddol ar gyllid llywodraeth leol.

Y Dreth Gyngor

Mae’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer casglu a gweinyddu’r dreth gyngor wedi’i nodi yn Rhan 1 o Ddeddf 1992. Mae adran 1 o'r Ddeddf honno yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod bilio i godi a chasglu’r dreth gyngor mewn perthynas ag anheddau trethadwy yn ei ardal.

Mae’r dreth gyngor yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw annedd nad yw’n annedd wedi’i heithrio. Rhaid i swyddog rhestru ar gyfer pob awdurdod bilio brisio’r anheddau yn yr ardal a llunio a chynnal rhestr brisio. Rhoddir pob annedd mewn un o naw o fandiau prisio, ac mae’r dreth a godir ar bob annedd yn dibynnu ar y band prisio. Rhaid i awdurdod bilio bennu swm y dreth gyngor sy’n daladwy ar gyfer yr anheddau sy’n perthyn i bob un o’r bandiau.

Mae’r ffordd y mae’n rhaid cyfrifo swm y dreth gyngor wedi’i nodi yn Rhan 1, Pennod 3 o Ddeddf 1992.  Am bob blwyddyn ariannol, mae’n ofynnol i awdurdod bilio gyfrifo’i ofynion cyllideb yn unol ag adrannau 32 i 37 o Ddeddf 1992. Mae hyn yn golygu y gall yr awdurdod bennu swm sylfaenol y dreth.

Mae cynghorau cymuned yn awdurdodau praeseptio lleol at ddibenion Deddf 1992 a gallent anfon praesept at awdurdod bilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid ystyried praeseptiau a gaiff eu hanfon i'r awdurdod bilio gan awdurdodau praeseptio lleol wrth gyfrifo gofynion cyllideb y prif gyngor ac maent yn rhan o’r dreth gyngor a gyfrifir gan yr awdurdod bilio. Cesglir swm y praesept gan yr awdurdod bilio fel rhan o’r dreth gyngor a dyma yw prif ran y gyllideb ar gyfer cynghorau cymuned.

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn 'brif ' awdurdodau praeseptio a rhaid iddynt anfon praesept i’r awdurdod bilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol gan ddangos swm sy’n ofynnol at eu dibenion hwy. Mae’r rhan fwyaf o gyllid yr heddlu, fodd bynnag, yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU.

Mae swm y dreth gyngor a godir yn gyfanred o’r dreth gyngor a gyfrifir gan yr awdurdod bilio a’r swm sy’n ofynnol gan y prif awdurdodau praeseptio.
 

Grant Cynnal Refeniw

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru dalu am grant cynnal refeniw i brif gynghorau ac i gyrff sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer awdurdodau lleol sydd wedi’u nodi’n benodol gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 76(4) o Ddeddf 1988.

Am bob blwyddyn ariannol, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi adroddiad ariannol llywodraeth leol gerbron Senedd Cymru. Mae’r adroddiad yn nodi faint o grant cynnal refeniw y bwriada Gweinidogion Cymru ei ddosbarthu i brif gynghorau ac i gyrff penodol eraill. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi sut y dosberthir trethi annomestig. Roedd y Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi diwygio Deddf 1988 i ganiatáu cynhyrchu adroddiad ar wahân ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Gellir rhoi grantiau penodol hefyd i gynghorau er mwyn ariannu gwariant neu wasanaethau penodol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Ionawr 2024