Cynghorau cymuned
Rhennir siroedd a bwrdeistrefi sirol (neu 'prif ardaloedd') yng Nghymru yn ardaloedd cymunedol a gall fod cyngor cymuned etholedig ar eu cyfer. Corff corfforaethol yw cyngor cymuned sy’n cynnwys cadeirydd a chynghorwyr y gymuned. Etholir cynghorwyr cymuned gan etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned ac mae eu cyfnod yn y swydd yn para 4 blynedd. Bydd y cyngor yn ethol cadeirydd o blith y cynghorwyr bob blwyddyn.
Sefydlwyd cynghorau cymuned o dan y Deddf Llywodraeth Leol 1972 (LGA 1972) gan ddisodli trefn yr hen gynghorau plwyf. Bellach mae mwyafrif llethol y swyddogaethau a ysgwyddai’r Ysgrifennydd Gwladol o dan LGA 1972 sy’n ymarferadwy mewn perthynas â Chymru yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Diwygiwyd y ddarpariaeth yn LGA 1972 sy’n ymwneud â chymunedau yn sylweddol mewn perthynas â Chymru gan y Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Mae enw pob cyngor cymuned yn rhoi’r geiriau 'Cyngor Cymuned' o flaen enw’r gymuned neu 'Community Council' ar ôl enw’r gymuned yn Saesneg. Gall cymuned nad yw wedi’i dosbarthu gyda chymuned arall benderfynu cael statws tref a mabwysiadu’r enw 'Cyngor Tref' neu 'Town Council'.
Nodir swyddogaethau cyngor cymuned yn LGA 1972 ac mewn deddfwriaeth arall. Y gwasanaethau a’r amwynderau y byddant yn eu darparu gan amlaf yw neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddau, llochesau, goleuadau stryd a llwybrau cerdded. O dan y Deddf Llywodraeth Leol 2000 (fel y’i diwygiwyd gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011), mae gan gynghorau cymuned y pŵer i wneud unrhyw beth yr ystyriant sy’n debygol o sicrhau hyrwyddiant neu welliant i les economaidd, lles cymdeithasol neu les amgylcheddol eu hardal.
Y brif ffynhonnell gyllid ar gyfer cynghorau cymuned yw’r arian a dderbynnir trwy’r hyn a elwir yn braesept (ffî) i’r dreth gyngor o dan adran 41 o'r Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Rhaid i gyngor cymuned gyfrifo’i ofynion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol yn unol ag adran 50 o’r Ddeddf honno a chyhoeddi praesept i’r awdurdod bilio. Telir costau cyngor o’r arian a dderbynnir yn sgil y praesept. Gall Gweinidogion Cymru hefyd, o dan adran 129 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, dalu grant i gynghorau cymuned tuag at wariant a gronnir neu a fydd yn cael ei gronni ganddynt.
Cyflwynodd y Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 weithdrefn o safonau newydd ar gyfer cynghorau cymuned. O dan yr LGA 2000, gall Gweinidogion Cymru trwy orchymyn bennu’r egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau cynghorau cymuned a gallant gyhoeddi cod ymddygiad enghreifftiol sy’n rhaid i aelodau ufuddhau iddynt.
Yn unol â hyn, mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 yn darparu cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau cynghorau cymuned. Pan na fydd gan gymuned ei chyngor ei hun, gall yr etholwyr lleol gynnal cyfarfod o’r gymuned ac yn amodol ar amodau statudol penodol gallant wneud cais am orchymyn i sefydlu cyngor ar wahân ar gyfer y gymuned. Cyflwynir y cais i brif gyngor yr ardal a rhaid i’r cyfryw gyngor sicrhau bod yr amodau perthnasol wedi’u bodloni.