Skip to main content

Cynllun Deddf

Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â sut mae Deddf yn cael ei gosod allan. 

Teitl byr - dyma'r enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y Ddeddf (ac sy'n cynnwys y flwyddyn y cafodd ei phasio). Mae'r teitl byr yn ymddangos ar y dudalen flaen, ond mae adran o fewn y Ddeddf hefyd (naill ai'r adran gyntaf neu'r adran olaf fel arfer) sy'n nodi beth yw'r teitl byr.

Teitl hir - mae hwn yn ymddangos ar y dudalen gyntaf, ar ôl y dudalen gynnwys, yn union cyn adran 1 y Ddeddf. Mae'r teitl hir yn cychwyn gyda 'Mae Deddf ...' ac yn esbonio'n gryno beth yw cynnwys y Ddeddf. Mae rhai teitlau hir yn eithaf manwl a llawn gwybodaeth ond mae eraill yn fyr ac nid ydynt yn cyfleu rhyw lawer. Er y gall ddarparu tystiolaeth o'r pwrpas sydd y tu ôl i'r Ddeddf, mae teitl hir yn debygol o fod wedi'i eirio mewn termau cyffredinol iawn ac felly mae'n annhebygol o helpu i ddehongli'r prif ddarpariaethau yn y Ddeddf. 

Rhaglith - yn aml mae darnau hŷn o ddeddfwriaeth yn cynnwys rhaglith yn lle'r teitl hir. Mae rhaglith yn disgrifio pwrpas Deddf ac mae tuedd iddo fod yn fwy cynhwysfawr na theitl hir. Nid yw Deddfau Senedd, Deddfau Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad yn cynnwys rhaglith.

Fformiwla deddfu – a bod yn fanwl gywir, er nad yw hyn yn angenrheidiol ar gyfer Deddfau Senedd y DU a Deddfau’r Senedd, byddant yn cychwyn gyda geiriau deddfu sy'n cyflwyno darpariaethau'r Ddeddf sydd ag effaith gyfreithiol. Mae'r rhan fwyaf o Ddeddfau Senedd y DU yn cael eu pasio gan ddau Dŷ'r Senedd, ac felly dyma'r fformiwla deddfu sydd ynddynt:

BE IT ENACTED by the King's most Excellent Majesty, by and with the advice and consent of the Lords Spiritual and Temporal, and Commons, in this present Parliament assembled, and by the authority of the same, as follows:-

Dyma'r fformiwla deddfu ar gyfer Deddfau’r Senedd:

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Prif gorff - mae prif gorff Deddf yn cael ei rannu'n adrannau (1, 2, 3 ac ati), is-adrannau ((1), (2), (3), ac ati), paragraffau ((a), (b), (c), ac ati)  ac is-baragraffau ((i), (ii), (iii), ac ati).   Mae gan bob adran bennawd a'i fwriad yw dynodi beth sydd yn yr adran honno a gall felly helpu'r darllenydd i adnabod y darpariaethau perthnasol yn gynt. Gall prif gorff deddf gael ei rannu'n Adrannau os yw'n ymdrin â nifer o faterion gwahanol, a gall Adrannau gael eu rhannu ymhellach yn Benodau.

Trosolwg – bydd yr adran gyntaf o fewn prif gorff y Ddeddf (neu Ran o'r Ddeddf) yn darparu trosolwg o weddill y Ddeddf (neu'r Rhan). Pwrpas trosolwg o'r fath yw crynhoi'r cynnwys (darparu cyd-destun ar gyfer y darllenydd) a helpu i ganfod y ffordd o gwmpas y Ddeddf neu'r Rhan. Nid oes bwriad i drosolwg fod ar effaith gyfreithiol, yn wahanol i adran sy'n gosod allan bwrpas Deddf (rhywbeth sy'n anarferol mewn deddfwriaeth y DU).

Termau diffiniedig - mae bron pob Deddf yn diffinio rhai geiriau neu ymadroddion er mwyn iddynt fod ag ystyr benodol at bwrpas y Ddeddf. Yn gyffredinol mae'r termau hyn i'w gweld mewn adran 'Ddehongli' ar ddiwedd y Ddeddf neu Ran berthnasol y Ddeddf, ond os nad yw termau allweddol yn hawdd eu deall drwy eu hystyr naturiol cânt eu diffinio'n gynyddol ar gychwyn Deddf er mwyn helpu'r darllenydd i ddeall y darpariaethau sy'n dilyn. Yn aml bydd Deddfau mwy yn cynnwys Mynegai o'r termau sy'n cael eu diffinio, a hynny mewn Atodlen i'r Ddeddf fel arfer.

Dod i rym (cychwyn) –   Fel arfer mae gan Ddeddfau adran yn agos at y diwedd sy'n gosod allan pryd neu sut y bydd y Ddeddf yn dod i rym (mewn is-ddeddfwriaeth mae hyn wedi'i nodi ar y dechrau).

Atodlenni - mae rhai Deddfau'n cynnwys Atodlenni, sydd ar y diwedd. Gall Atodlen gael ei defnyddio i gynnwys manylion technegol, neu ddarpariaethau mwy manwl allai dorri ar lif y testun pe byddent yn cael eu cynnwys ym mhrif gorff y Ddeddf. Gall Atodlen gael ei his-rannu’n Rhannau, ac mae'n cynnwys paragraffau wedi’u rhifo fel arfer.

Nodiadau esboniadol - mae nodiadau esboniadol yn cyd-fynd â bron pob Deddf Seneddol ers 1999 a phob Deddf Senedd, Deddf Cynulliad a Mesur Cynulliad. Eu pwrpas yw esbonio'r Ddeddf heb yr angen am wybodaeth gyfreithiol neu wybodaeth arbenigol arall.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Medi 2022