Skip to main content

Cynlluniau datblygu

Mae'r system sy'n dilyn cynllun yn golygu bod rhagdybiaeth o blaid datblygu sy'n cyd-fynd â chynllun datblygu ACLl a rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad nad yw'n gwneud hynny.

Mae cynlluniau datblygu'n parhau'n effeithiol nes eu bod yn cael eu diddymu neu eu disodli.

Os yw ACLl yn bwriadu gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad fyddai'n gwrthdaro â'i gynllun datblygu mae gofyn arno dan rai amgylchiadau i hysbysu Gweinidogion Cymru, er mwyn rhoi cyfle iddynt ystyried os ydynt yn dymuno defnyddio eu pwerau galw i mewn.

Mae oed y cynllun datblygu a pha mor gyson yw â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn ffactorau pwysig wrth benderfynu ar y pwysau ddylai gael ei roi arno.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021