Skip to main content

Cynlluniau a hysbysiadau

Yn amodol ar rai eithriadau sydd wedi’u nodi yn y Rheoliadau Adeiladu 2010, rhaid i berson sy'n bwriadu:

  • gwneud gwaith adeiladu;
  • newid neu adnewyddu elfen thermol mewn adeilad y mae'r gofynion effeithlonrwydd ynni yn berthnasol iddi;
  • gwneud newid i statws ynni adeilad;
  • gwneud newid defnydd sylweddol,
  • rhaid rhoi hysbysiad adeiladu neu gyflwyno cynlluniau llawn i'r awdurdod lleol.

Rhaid i berson gyflwyno cynlluniau llawn pan fydd yn bwriadu gwneud gwaith penodol yn cynnwys gwaith adeiladu mewn perthynas ag adeilad y mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo, neu fydd yn berthnasol iddo ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei orffen.

Lle rhoddir hysbysiad adeiladu, nid oes angen cynlluniau. Bwriad defnyddio hysbysiad adeiladu yw galluogi i rai mathau o waith adeiladu gychwyn yn gyflym. Lle mae cais llawn yn cael ei wneud rhaid iddo gynnwys cynlluniau a gwybodaeth arall yn dangos holl fanylion yr adeiladu. Mae'r awdurdod lleol yn gwirio cynlluniau ac yn ymgynghori ag unrhyw awdurdodau priodol (e.e. tân a charthffosiaeth).

Yn y ddau achos, bydd gwaith yn cael ei archwilio wrth iddo fynd yn ei flaen.

Nid oes gofyn i berson roi hysbysiad adeiladu na chyflwyno cynlluniau llawn pan fyddant yn bwriadu gwneud gwaith sy'n cynnwys mathau penodol o waith yn unig. Mae gwaith o'r fath yn cynnwys gwaith wedi'i hunanardystio gan aelod o Gynllun Personau Cymwys. Mae Cynlluniau Personau Cymwys yn caniatáu i unigolion a mentrau hunanardystio fod eu gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau 4 (gofynion sy'n ymwneud â gwaith adeiladu) a 7 (deunyddiau a chrefftwaith) y Rheoliadau Adeiladu 2010.

Gweinidogion Cymru sy'n awdurdodi Cynlluniau Personau Cymwys yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021