Skip to main content

Deddf Addysg (Cymru) 2014

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;
  • cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc;
  • rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys—
    • rhwymedigaeth personau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol;
    • y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig;
  • rhannu gwybodaeth am bobl gofrestredig.
  • pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
  • amserau sesiynau ysgolion;
  • penodi personau i Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
  • swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin at bob diben fel arferadwy gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 1, 45 i 47 a 49 i 51 i rym ar 12 Mai 2014, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 50(1).

Daeth adran 42 hefyd i rym ar y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond yn unol ag adran 50(2).

Daeth paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

 

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 20242024 Rhif 74 (Cy. 21)23 Ionawr 20241 Mawrth 2024Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categoriau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 20232023 Rhif 551 (Cy. 86)17 Mai 202322 Mai 2023Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Absenoldeb Profedig Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 20232023 Rhif 378 (Cy. 58)28 Mawrth 202326 Mai 2023Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 20222022 Rhif 1058 (Cy. 223)12 Hydref 20227 Tachwedd 2022Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 20212021 Rhif 350 (Cy. 102)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 20202020 Rhif 623 (Cy. 143)22 Mehefin 202015 Gorffennaf 2020Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 20182018 Rhif 862 (Cy. 169)17 Gorffennaf 20189 Awst 2018Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 20172017 Rhif 1023 (Cy. 261)25 Hydref 20171 Tachwedd 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 20172017 Rhif 165 (Cy. 46)15 Chwefror 201710 Mawrth 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 20172017 Rhif 154 (Cy. 45)14 Chwefror 201716 Chwefror 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 20172017 Rhif 92 (Cy. 34)31 Ionawr 20171 Chwefror 2017, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 20162016 Rhif 1183 (Cy. 288)7 Rhagfyr 20161 Mawrth 2017, ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 20162016 Rhif 27 (Cy. 9)13 Ionawr 20161 Chwefror 2016, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2016Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 20162016 Rhif 6 (Cy. 4)6 Ionawr 20161 Ebrill 2016Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20152015 Rhif 484 (Cy. 41)3 Mawrth 20151 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 20152015 Rhif 194 (Cy. 9)10 Chwefror 20151 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 20152015 Rhif 195 (Cy. 10)10 Chwefror 20151 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau)
(Cymru) 2015
2015 Rhif 140 (Cy. 8)

 

3 Chwefror 2015

 

1 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 20142014 Rhif 2365 (Cy. 229)3 Medi 201429 Medi 2014, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cafodd y Bil yma ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf 2013 gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 25 Mawrth 2014.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mai 2024