Skip to main content

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sef y corff rheoleiddio annibynnol sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru gan ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae addysg drydyddol yn ymgorffori pob ffurf ar addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a’r chweched dosbarth.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth arall ynghylch addysg drydyddol, gan gynnwys:

  • cofrestru a rheoleiddio darparwyr 
  • sicrhau cyllid
  • prentisiaethau 
  • diogelu dysgwyr, cwynion ac ymgysylltu 
  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. 

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 143 i 146 a 148 i 149 o'r Ddeddf i rym ar 9 Medi 2022, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 148(1). Mae adran 148(2) yn darparu bod darpariaethau eraill o'r Ddeddf yn dod i rym pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae'r gorchmynion canlynol wedi'u gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 1 Tachwedd 2021, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Mawrth 2024