Skip to main content

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (y Ddeddf) yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy (RhTG) yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r amcanion RhTG fel y prif fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y ffordd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu at orau at gyflawni’r amcanion hynny. Mae’r Ddeddf hefyd:

  • yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, ac mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth;
  • yn caniatáu i denantiaid amaethyddol gael mynediad at weithdrefnau cymrodeddu, mewn amgylchiadau penodol;
  • yn newid y ffordd y mae trwyddedau cwympo coed yn gweithio;
  • yn gwahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud.

Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Bil, sy’n darparu trosolwg defnyddiol pellach o’r Ddeddf. Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf hefyd yn darparu sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Mae adran 56(1), (2) a (3) o’r Ddeddf yn darparu bod gwahanol adrannau o’r Ddeddf yn dod i rym ar ddyddiau penodol. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion, yn unol ag adran 56(4). Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 20242024 Rhif 83 (Cy. 23)24 Ionawr 2024
15 Gorffennaf 2024
 
Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar 26 Medi 2022 a chafodd ei basio gan Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fersiwn derfynol).  

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Awst 2023.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
11 Ebrill 2024