Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
Mae prif ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn:
- rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ac yn nodi’r telerau;
- creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo;
- rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a’r berthynas rhwng y ddau;
- rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adrannau 30, 35 a 36 i rym ar 29 Ebrill 2013, sef y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 35(1).
Yn amodol ar hynny, daw’r Ddeddf i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 35(2).
Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014 | 2014 Rhif 890 (Cy. 88) | 1 Ebrill 2014 | 23 Ebrill 2014 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 | 2014 Rhif 77 (Cy. 8) | 14 Ionawr 2014 | 1 Ebrill 2014 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar y pryd, ar 9 Gorffennaf 2012. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 5 Mawrth 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013.