Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013
Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru:
- ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig etc. ac mewn cysylltiad â hynny,
- i amddiffyn rhag troi allan o safleoedd gwarchodedig,
- ynghylch telerau cytundebau i osod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig,
- y caiff awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i gartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin odani, ac
- ynghylch materion atodol a chyffredinol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth Rhan 6 i rym ar 5 Tachwedd 2013, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 64(1).
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 64(2). Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Bil Aelod Cynulliad oedd hwn, a gyflwynwyd gan Peter Black AC ar 24 Hydref 2012, ar ôl iddo lwyddo mewn balot deddfwriaethol. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 25 Medi 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
Cartrefi (symudol) mewn parciau: canllawiau i berchnogion | LLYW.CYMRU