Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol ac yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), y corff sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- rhoi pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol ar drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â dychwelyd ffurflenni treth a chynnal ymchwiliadau ac asesiadau i alluogi ACC i nodi a chasglu swm priodol o drethi datganoledig sy’n ddyledus gan drethdalwyr;
- pwerau ymchwilio a gorfodi sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy’n galluogi ACC i ofyn am wybodaeth a dogfennau ac i asesu ac archwilio mangreoedd ac eiddo arall;
- dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog dan rai amgylchiadau;
- hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau ACC ac i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o’r fath;
- cyflwyno pwerau gorfodi troseddol i ACC.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth Rhan 1, adrannau 37, 82, 117 a 171, a Rhan 10 i rym ar 26 Ebrill 2016, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 194(1). Daw gweddill darpariaethau'r Ddeddf hon i rym ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 194(2). Mae'r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017
- Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi gwneud y Gorchymyn hwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil ar 13 Gorffennaf 2015 gan Jane Hutt AS, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 8 Mawrth 2016.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2016.