Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’) yn sefydlu’r fframwaith statudol ar gyfer cwricwlwm i rai 3 i 16 oed – y Cwricwlwm i Gymru – sy’n seiliedig ar feysydd dysgu a phrofiad. Nodir pedwar diben cwricwlwm yn adran 2, sef galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu:
- yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
- yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru a’r byd;
- yn unigolion iach a hyder us, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.
Mae Deddf 2021 hefyd:
- yn nodi’r gofynion cyffredinol y mae’n rhaid i gwricwlwm eu bodloni
- yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau cynnydd ac asesu cysylltiedig
- yn sefydlu continwwm dysgu ar gyfer rhai 3 i 16 oed
- yn datgymhwyso’r gofyniad i ddysgu Saesneg hyd at 7 oed
- yn cynnwys rhai effeithiau ar y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr uwchlaw oed ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir.
Mae'r Crynodeb hwn o’r Bil, a luniwyd gan y Senedd, yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Dod i rym
Daeth Rhan 7 o’r Ddeddf rym ar 30 Ebrill 2021, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 84(1). Mae adran 84(2) i (4) yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi’u gwneud:
- Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021
- Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022
- Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig | 15 Tachwedd 2021 | |||
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Cynnydd | 15 Tachwedd 2021 | |||
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022 | 2022 Rhif 17 (Cy. 9) | 7 Ionawr 2022 | Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 hyd 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1. | Memorandwm Esboniadol |
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb | 25 Ionawr 2022 | |||
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 | 2022 Rhif 111 (Cy. 39) | 7 Chwefror 2022 | 8 Mawrth 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth)(Rhif 1) 2022 | 2022 Rhif 666 (Cy. 149) | 14 Mehefin 2022 | Rheoliadau 1 a 2 mewn grym o 1 Medi 2022, a daw rheoliadau 3 i 13 i rym fel y nodir yn rheoliadau 3(2), 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2), 10(2), 11(2), 12(2) a 13(2). | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 | 2022 Rhif 679 (Cy. 155) | 15 Mehefin 2022 | Rhan 1 o’r Rheoliadau – 1 Medi 2022 Rhan 2 o’r Rheoliadau – fel y nodir yn y rheoliadau unigol | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022 | 2022 Rhif 676 (Cy. 153) | 15 Mehefin 2022 | Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 i 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1. | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022 | 2022 Rhif 670 (Cy. 150) | 15 Mehefin 2022 | Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 i 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1. | Memorandwm Esboniadol |
Nodyn Esboniadol a Chyfarwyddyd o dan Adran 57 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 | 23 Mehefin 2022 | 9am ar 24 Mehefin 2022 | ||
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 | 2022 Rhif 744 (Cy. 161) | 29 Mehefin 2022 | 1 Medi 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth)(Rhif 3) 2022 | 2022 Rhif 758 (Cy. 164) | 4 Gorffennaf 2022 | 1 September 2022, but regulations 7(4), 9(2) (3), 10(3), (5), (7), (8), 11(4), 13(3), 14(3), 15(2) (3), 16(2) (3), 17(2), 19(2) and (3) specify the dates on which specific provisions of Part 2 of these Regulations come into force | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024 | 2024 Rhif 607 (Cy. 86) | 9 Mai 2024 | 1 Medi 2024 | Memorandwm Esboniadol |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg (ar y pryd) ar 6 Gorffennaf 2020 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021.