Skip to main content

Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (diddymwyd)

Bwriad Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (diddymwyd) (y Ddeddf) oedd cadw cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) a oedd yn ymdrin â phynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru, wrth i’r DU ymadael â’r UE. Roedd y Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy’n ymdrin â’r pynciau hyn yn gweithio’n effeithiol ar ôl i’r DU adael yr UE. 

Roedd y Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddeddfu er mwyn sicrhau bod cysondeb rheoleiddiol â’r UE yn parhau, fel bod busnesau Cymru yn dal i allu manteisio ar farchnadoedd yr UE. Roedd hefyd yn creu sefyllfa gyfreithiol ddiofyn a oedd yn golygu bod rhaid cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i Weinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.  

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth y Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2018, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 21.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Diddymwyd y Ddeddf gan y Rheoliadau a ganlyn: 

TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 20182018 Rhif 1211 (Cy. 247)   21 Tachwedd 201822 Tachwedd 2018Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r Ddeddfwriaeth

Bil Brys gan y Llywodraeth oedd hwn, a gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2018 gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd. Bil gan y Llywodraeth yw Bil Brys, y mae angen iddo gael ei ddeddfu’n gyflymach nag y mae proses ddeddfu bedair cam arferol y Llywodraeth yn caniatáu. Nid oes diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 nac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, ond mae Rheol Sefydlog 26.95 yn datgan:

“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”

Fel yn achos holl Filiau Senedd Cymru, rhaid i Filiau Brys y Llywodraeth fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2018.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

•    Datganiad Ysgrifenedig - Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Tachwedd 2023