Skip to main content

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (‘y Ddeddf’) yn cyflwyno amrywiaeth o ddiwygiadau i’r system ardrethu annomestig a system y dreth gyngor yng Nghymru. 

O ran ardrethi annomestig, mae’r Ddeddf yn:

  • cynyddu pa mor aml mae ailbrisio yn digwydd i bob tair blynedd, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r flwyddyn ailbrisio a’r cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio drwy reoliadau; 
  • rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rhoi neu amrywio rhyddhadau, neu eu tynnu’n ôl;
  • cryfhau’r amodau y mae elusennau yn gymwys am ryddhad ar gyfer hereditament heb ei feddiannu;
  • ehangu’r diffiniad o adeilad newydd at ddiben cyflwyno hysbysiadau cwblhau gan awdurdodau bilio;
  • dileu cyfyngiad amser ar gyfer dyfarnu ac amrywio rhyddhad dewisol gan awdurdodau bilio;
  • rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i roi neu amrywio esemptiadau neu eu tynnu’n ôl;
  • rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu lluosyddion gwahaniaethol yn seiliedig ar y disgrifiad o hereditament ar y rhestr leol, ei werth ardrethol neu ei leoliad, neu werth ardrethol hereditament ar y rhestr ganolog;
  • rhoi dyletswydd ar drethdalwyr i ddarparu mathau penodol o wybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y drefn cydymffurfio gysylltiedig; ac yn
  •  gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision sy’n deillio o drefniadau osgoi artiffisial.

O ran y dreth gyngor, mae’r Ddeddf yn:

  •  darparu hyblygrwydd i newid y pwynt cyfeirio o 100% yn y strwythur bandio i fand gwahanol neu i ddisgrifiad gwahanol o fand;
  • rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â gostyngiadau a phersonau sydd i’w diystyru rhag cyfrifo atebolrwydd;
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor unigol drwy reoliadau ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau bilio ar y ffordd y caiff y cynllun ei gymhwyso; ac yn 
  • sefydlu cylch pum mlynedd o ailbrisiadau o 1 Ebrill 2028, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r flwyddyn ailbrisio a’r cyfnod rhwng ailbrisiadau, yn ogystal â diwygio dyddiad cyhoeddi rhestr ddrafft drwy orchymyn.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Mae’r Ddeddf yn dod i rym fel a ganlyn yn unol ag adran 23

  • daeth adrannau 1, 16, 21, 22, 23 a 24 a pharagraff 13(3)(b) o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 13(3)(b)) i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 17 Medi 2024);
  •  daw adrannau 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 13, 14, 17 ac 20 a Rhannau 1, 2, 3, 6 a 7 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhannau hynny o’r Atodlen) i rym ddeufis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 16 Tachwedd 2024);
  • daw adrannau 6, 10 ac 11 a Rhan 4 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen) i rym ar 1 Ebrill 2025; 
  • daeth adran 18(2)(c) a (5), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adrannau 6 ac 11E o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 17 Medi 2024). At bob diben arall, daw adran 18(2)(c) a (5) i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn; 
  • daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn.

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf: 

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 20242024 Rhif 998 (Cy. 169)4 Hydref 2024Rhannau 1 a 2 - 16 Tachwedd 2024
Rhan 3 - 1 Ebrill 2025
Memorandwm Esboniadol

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 20 Tachwedd 2023 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 16 Gorffennaf 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Medi 2024.

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig 

  • Lluniodd gwasanaeth Ymchwil y Senedd gyfres o ddeunyddiau i esbonio’r cynigion ym Mil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). 
  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cynigion i ddiwygio ardrethi annomestig, a oedd yn sail ar gyfer datblygu’r Ddeddf. Roedd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 21 Medi 2022 a 14 Rhagfyr 2022. 
  • Aeth Llywodraeth Cymru ati fesul cam i ymgynghori ar ddiwygio’r dreth gyngor, a oedd yn sail ar gyfer datblygu’r Ddeddf. Cynhaliwyd cam 1 yr ymgynghoriad rhwng 12 Gorffennaf 2022 a 4 Hydref 2022 a cham 2 yr ymgynghoriad rhwng 14 Tachwedd 2023 a 6 Chwefror 2024. 
  • Cyhoeddwyd asesiad effaith ar y darpariaethau yn ymwneud ag ardrethi annomestig. 
  • Cyhoeddwyd asesiad effaith ar y darpariaethau yn ymwneud â’r dreth gyngor. 
  • Mae casgliad o wybodaeth am ddiwygio’r dreth gyngor ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 
  • Mae crynodeb o’r canfyddiadau o waith ymchwil a gynhaliwyd yn ystod y Pumed Senedd ar yr opsiynau posibl ar gyfer diwygio trethi lleol yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 
     
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
14 Tachwedd 2024