Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014
Mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn newid dyletswyddau ariannol blaenorol Byrddau Iechyd Lleol oedd yn bodoli o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae’n gwneud hyn drwy newid y gofyniad statudol blynyddol i beidio â gwario mwy na’r terfyn adnoddau, i drefn sy’n ystyried y ddyletswydd ariannol i reoli ei adnoddau o fewn terfynau cymeradwy dros gyfnod o dair blynedd.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Ebrill 2014 yn unol ag adran 3(2).
Is-deddfwriaeth sydd wedi gwneud o dan y Ddeddf:
Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cafodd y Bil yma ei gyflwyno ar 30 Medi 2013 gan Mark Drakeford AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Rhagfyr 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.