Skip to main content

Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019

Mae Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ariannu gofal plant rhieni sy’n gweithio, cyhyd â bod y plant a’r rhieni yn bodloni meini prawf penodol o ran cymhwysedd.

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer system wirio ceisiadau a chymhwysedd genedlaethol ar gyfer y cynllun ariannu gofal plant. Bydd hyn yn caniatáu i gyrff Llywodraeth perthnasol (fel Cyllid a Thollau ei Fawrhydi ac Adrannau eraill Llywodraeth y DU) rannu gwybodaeth.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 13 a 14 i rym ar 31 Ionawr 2019, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 13 o’r Ddeddf yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Nid oes unrhyw orchmynion cychwyn wedi’u gwneud o dan y Ddeddf hon hyd yn hyn.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Huw Irranca-Davies AS, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol (ar y pryd) ar 16 Ebrill 2018 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 12 Rhagfyr 2018.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Ionawr 2019. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023