Skip to main content

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (‘y Ddeddf’) yn sefydlu corff newydd o’r enw Cymwysterau Cymru fel y corff rheoleiddio annibynnol sy’n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu cymwysterau penodol yng Nghymru, ac am adolygu a chymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn mynd i’r afael â phedwar prif wendid y system bresennol, sef:

  • nad oes yna un sefydliad penodol sy’n ymroddedig i sicrhau effeithiolrwydd cymwysterau a’r system gymwysterau;
  • nad oes unrhyw bwerau i flaenoriaethu cymwysterau er mwyn canolbwyntio ar y cymwysterau y mae angen eu rheoleiddio fwyaf;
  • nad oes unrhyw bwerau i ddewis un darparwr ar gyfer cymhwyster penodol i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cymryd yr un cymhwyster; ac
  • nad oes digon o gapasiti i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu cymwysterau yn strategol o fewn y trefniadau cyfredol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 1, 2(3), 55 i 57, 59 i 61 ac Atodlen 2 o’r Ddeddf i rym ar 5 Awst 2015, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 60(1).

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 60(2).

Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwanedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 20192019 Rhif 796 (Cy. 149)3 Ebrill 201912 Ebrill 2019Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 20162016 Rhif. 236 (Cy. 88)24 Chwefror 20161 Mai 2016  Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn canlynol:

The Qualifications Wales Act 2015 (Consequential Provision) Order 2017

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 1 Rhagfyr 2014 gan Huw Lewis AC, a oedd yn Weinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 16 Mehefin 2015.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Awst 2015.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
26 Ebrill 2024