Skip to main content

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • Cryfhau’r dull o gynllunio a arweinir gan gynlluniau, drwy gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd i Weinidogion Cymru baratoi cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru. Mae’r Fframwaith yn nodi blaenoriaethau defnydd tir cenedlaethol a gofynion seilwaith ar gyfer Cymru.
  • Llunio cynlluniau datblygu strategol ar sail ardal, i fynd i’r afael â materion traws-ffiniol nad ydynt yn rhai lleol, fel cyflenwad tai ac ardaloedd ar gyfer twf economaidd ac adfywio.
  • Ymgynghori cyn ymgeisio, a’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio.
  • Ei gwneud yn ofynnol i geisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o bwys cenedlaethol gael eu gwneud i Weinidogion Cymru. Bydd ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio hefyd yn gallu gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio lle ystyrir bod awdurdod cynllunio lleol yn perfformio’n wael.
  • Diwygio’r system o reoli datblygu i symleiddio gweithdrefnau, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn brydlon, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau.
  • Gwella gweithdrefnau gorfodi ac apêl. Gwneir newidiadau hefyd mewn perthynas ag adennill costau partïon sy’n gysylltiedig ag achosion cynllunio.
  • Gwneud newidiadau mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru meysydd tref a phentref.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth Rhan 1 ac adrannau 56 i 59 i rym ar 6 Gorffennaf 2015, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 58(1).

Daeth adran 55 a Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 58(2). 

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol â’r amodau yn adran 58(4).

Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 6 Hydref 2014 gan Carl Sargeant AC, sef y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 19 Mai 2015. 

Mae mwy o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Ebrill 2024