Skip to main content

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Mae Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth bellach i newid neu addasu elfennau penodol o’r ddeddfwriaeth drethi sy’n gymwys yng Nghymru, er mwyn:

  • sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru (y dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir ar hyn o bryd) yn cael eu gosod yn groes i rwymedigaethau rhyngwladol;
  • amddiffyn rhag osgoi trethi datganoledig Cymru;
  • ymateb i newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU (treth dir y dreth stamp neu’r dreth dirlenwi) sy’n effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, neu a allai effeithio ar hynny; ac
  • ymateb i benderfyniadau’r llysoedd/tribiwnlysoedd sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y modd y mae Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt, yn gweithredu. (Mae’r term ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn cyfeirio at Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.)

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth y Ddeddf i rym ar 9 Medi 2022, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 9

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 13 Rhagfyr 2021 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023