Skip to main content

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019:

  • yn gwneud darpariaeth i hybu hygyrchedd y gyfraith drwy osod dyletswyddau ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd i baratoi rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
  • yn cynnwys darpariaethau diofyn ynglŷn a dehongli deddfwriaeth (Deddfau Senedd Cymru ac is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig eraill) a’r ffordd y mae’n gweithredu 
  • yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth er mwyn cyfeirio at ddyddiadau gwirioneddol, unwaith y maent yn hysbys, yn hytrach na disgrifiadau o ddyddiadau
  • yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn haws i Weinidogion Cymru gyfuno is-ddeddfwriaeth a wneir o dan wahanol bwerau mewn un offeryn statudol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth rhai darpariaethau o'r Ddeddf i rym ar 11 Medi 2019, sef y diwrnod ar ôl iddi dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 44(1). Daw gweddill Rhan 2 o'r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 44(2). Mae’r gorchymyn cychwyn a ganlyn wedi’i wneud:

Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwneudDod i rymDogfennau ategol

Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020
2020 Rhif 1356 (Cy. 300)
 
26 Tachwedd 202027 Tachwedd 2020Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd, ar 3 Rhagfyr 2018. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 16 Gorffennaf 2019.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2019.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Mae'r Llywodraeth wedi paratoi rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, sydd ar gael ar wefn Llywodraeth Cymru: Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026 [HTML] | LLYW.CYMRU

Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019: Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth Cymru | LLYW.CYMRU

Adolygiad o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
11 Ebrill 2024