Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018
Mae Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- diddymu hawl tenantiaid diogel cymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu);
- diddymu’r hawl a gadwyd gan denantiaid diogel blaenorol cymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu a Gadwyd);
- diddymu hawl tenantiaid sicr neu denantiaid diogel i landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr preifat cofrestredig, i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Hawl i Gaffael);
- anogaeth i landlordiaid cymdeithasol adeiladu neu gaffael cartrefi newydd i’w rhentu, ac i denantiaid sy’n symud i stoc tai cymdeithasol newydd fwy na deufis ar ôl i’r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol fethu ag arfer yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Gaffael, gydag eithriadau penodol;
- bod o leiaf un flwyddyn yn mynd heibio ar ôl i’r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol cyn bod diddymu’r Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Gaffael yn dod i rym ar gyfer stoc tai cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli.
Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Ddeddf, sy’n rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fwy manwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adrannau 1, 8, 9, 10, 11 a 12 i rym ar 24 Ionawr 2018, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfod o 2 fis gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth adrannau 6 a 7 i rym ar 26 Ionawr 2019 yn unol â’r gorchymyn diwrnod penodedig a ganlyn:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 | 2019 Rhif 110 (Cy. 27) | 24 Ionawr 2019 | 26 Ionawr 2019 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 13 Mawrth 2017 gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Awdurdododd y Prif Weinidog Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, i fod yr Aelod newydd â Gofal am y Bil, o 9 Tachwedd 2017.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
• Yr Hawl i Brynu yn dod i ben yng Nghymru ym mis Ionawr - LLYW.CYMRU
• Deddfwriaeth sy'n diddymu'r Hawl i Brynu yn derbyn Cydsyniad Brenhinol - LLYW.CYMRU