Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) i ddefnyddiwr yng Nghymru gynhyrchion plastig untro diangen penodol. Bydd y Ddeddf yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi’r cynhyrchion hyn yng Nghymru, oni bai bod esemptiad.
Bydd y cynhyrchion plastig untro diangen canlynol, cynhyrchion sydd yn aml yn cael eu sbwriela, yn cael eu gwahardd i ddefnyddwyr yng Nghymru:
- platiau
- cytleri
- troellwyr diodydd
- gwellt yfed (gan gynnwys gwellt sydd ynghlwm)
- cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren
- cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
- caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
- ffyn cotwm plastig
- ffyn balwnau
- cynhyrchion ocso-ddiraddiadwy
- bagiau siopa plastig untro
Bydd y gwaharddiadau'n cael eu cyflwyno mewn "camau". Mae hyn er mwyn caniatáu amser i fusnesau ddefnyddio stoc sy'n bodoli eisoes ac i brynu neu wneud dewisiadau eraill.
Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adrannau 3, 4, 17, 21, 22 a 23 o'r Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2023, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 22(1). Daw'r darpariaethau sy'n weddill i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 22(2) o'r Ddeddf. Mae'r gorchymyn canlynol wedi'i wneud:
Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Teitl | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 | 2023 Rhif. 1288 (C. 226) | 29 Tachwedd 2023 | 1 Rhagfyr 2023 | Memorandwm Esboniadol |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 20 Medi 2022, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.