Skip to main content

Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026


Mae Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru, i reoleiddio’r gwaith o asesu risgiau diogelwch adeiladau ac o’u rheoli’n barhaus yn ystod cam meddiannu adeiladau preswyl amlfeddiannaeth.

Yn gryno, mae Deddf 2026:

  • yn nodi’r rheini y gosodir dyletswyddau statudol arnynt o dan y Ddeddf;
  • yn ei gwneud yn ofynnol cofrestru adeiladau rheoleiddiedig penodol (sef yr adeiladau hynny sydd o leiaf 11 o fetrau o uchder neu sydd ag o leiaf 5 llawr) gydag awdurdod diogelwch adeiladau;
  • yn rhoi swyddogaethau i’r “awdurdod diogelwch adeiladau”. Bydd Gweinidogion Cymru yn dynodi awdurdod lleol ym mhob ardal awdurdod tân ac achub fel yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr ardal honno;
  • yn rhoi swyddogaethau newydd i’r “awdurdod diogelwch tân” yng Nghymru, sef pob awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru neu arolygydd tân yn achos mangreoedd y Goron;
  • yn creu dyletswyddau i asesu a rheoli risgiau diogelwch tân ym mhob adeilad sydd o fewn y cwmpas. Mae “adeiladau sydd o fewn cwmpas” yn cynnwys adeiladau rheoleiddiedig a thai amlfeddiannaeth perthnasol;
  • yn creu dyletswyddau i asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol ar gyfer adeiladau sydd o fewn y cwmpas sydd o leiaf 11 o fetrau o uchder, neu sydd ag o leiaf 5 llawr;
  • yn rhoi hawliau newydd ar waith i breswylwyr adeiladau sydd o fewn y cwmpas, ac yn gosod dyletswyddau arnynt;
  • yn sefydlu cyfundrefn orfodi newydd fel y gellir cymryd camau gorfodi os nad yw’r dyletswyddau newydd yn cael eu bodloni;
  • yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddarparu y caiff y tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyweirio; ac y caiff wneud gorchymyn cyfraniadau cyweirio a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol wneud taliadau i berson penodedig at ddibenion talu costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth unioni diffygion perthnasol sy’n ymwneud ag adeilad perthnasol, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall;
  • yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar y gofyniad i dalu taliadau gwasanaeth penodol (i ddim, mewn rhai achosion), ac i wneud darpariaeth gysylltiedig. 

    Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Cyhoeddir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael.

 

Dod i rym


Mae adran 138(1) yn darparu bod y darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 28 Ebrill 2026: adrannau 1 i 9; adrannau 13 i 17; adrannau 133 i 136; adran 137(3) a (4); adran 138; adran 140. 

Mae adran 138(2) yn darparu bod darpariaethau eraill Deddf 2026 yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig. 

Mae adran 139 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd ar y cynnydd o ran dod â’r Ddeddf i rym. Rhaid i adroddiad gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron Senedd Cymru fesul cyfnodau penodedig hyd nes bod y Ddeddf mewn grym yn llawn.

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf


Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth


Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 7 Gorffennaf 2025 gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026. 

 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig


Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru): asesiad effaith integredig | LLYW.CYMRU
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mai 2026