Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (‘y Ddeddf’) yn diwygio ac yn moderneiddio’r ffordd y caiff etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol eu cynnal yng Nghymru, drwy weithredu llawer o’r cynigion yn y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, er mwyn cryfhau atebolrwydd a rheolaeth ddemocrataidd. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- gweinyddu a chofrestru ar gyfer etholiadau
- peilota newidiadau i’r system etholiadol
- y system ar gyfer monitro ac adolygu trefniadau etholiadol llywodraeth leol
- datgymhwyso cynghorwyr cymuned rhag bod yn aelodau o Senedd Cymru
- cymhwyso’r arfer llwgr o ddylanwad amhriodol i etholiadau Senedd Cymru ac i etholiadau llywodraeth leol, a
- swyddogaethau a chyfansoddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Mae adran 72 yn darparu bod y Ddeddf yn dod i rym fel a ganlyn:
- daeth Pennod 3 o Ran 1, Rhan 2 o Atodlen 1, adrannau 61 a 66 a Rhan 3 i rym ar 10 Medi 2024, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol
- daw Pennod 1 o Ran 2 ac adrannau 25, 30, 62 a 63 i rym ar 9 Tachwedd 2024, sef ddeufis ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol
- daw adran 65 i rym ar 6 Mai 2027
- yn amodol ar adran 72(5), daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (‘y Bil’) i’r Senedd ar 2 Hydref 2023 gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 9 Gorffennaf 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Medi 2024.
Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y cafodd ei ddiweddaru yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
- Lluniodd gwasanaeth Ymchwil y Senedd y Crynodeb hwn o’r Bil i egluro’r cynigion ym Mil Etholiadau a Chyrff Etholiadol (Cymru)