Skip to main content

Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

Cafodd Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 ei phasio er mwyn amddiffyn rhag y coronafeirws yn ystod etholiadau Senedd Cymru a’r isetholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2021. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys:

  • y pŵer i ohirio etholiad cyffredinol Senedd Cymru yn 2021 (a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mai 2021) am hyd at 6 mis;
  • y pŵer i ddarparu dyddiau pleidleisio ychwanegol yn yr etholiad hwnnw;
  • y pŵer i ohirio isetholiadau Senedd Cymru a oedd i fod i gael eu cynnal ar ôl 6 Mai 2021;
  • y pŵer i ohirio’r isetholiadau llywodraeth leol a oedd i fod i gael eu cynnal yng Nghymru ar ôl 6 Mai 2021.

Prif amcan y Ddeddf oedd sicrhau y gallai etholiad y Senedd gael ei weinyddu a’i gynnal yn ddiogel ar 6 Mai 2021, er gwaethaf ansicrwydd y pandemig, ac y gallai etholwyr gymryd rhan a phleidleisio. Roedd hyn yn cynnwys ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy a chaniatáu i bleidleisiau gael eu cyfrif yn electronig er mwyn cyflymu’r broses.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth y Ddeddf i rym ar 17 Mawrth 2021, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 18

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd, ar 27 Ionawr 2021. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru ar 10 Chwefror 2021.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Senedd Cymru (wrth gyflwyno’r Bil). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023