Skip to main content

Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026


Mae Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn ei gwneud yn drosedd gweithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a'i ddefnyddio, neu dan wybod ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, i rasio milgwn. Mae Deddf 2026 yn ei gwneud yn drosedd hefyd fod yn gysylltiedig â threfnu ras milgwn sy'n digwydd, neu y bwriedir iddi ddigwydd, yng Nghymru. Diffinnir ‘rasio milgwn’ fel cymell milgwn i redeg o amgylch trac ar ôl llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol, ac mae hyn yn cynnwys amseru neu hyfforddi milgi wrth iddo redeg o amgylch trac.


Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Bydd dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk yn cael ei darparu pan fydd ar gael.
 

Dod i rym


Daeth adrannau 6 a 7 o Ddeddf 2026 i rym ar 28 Ebrill 2026. Mae adran 6 yn darparu bod gweddill darpariaethau Deddf 2026, ac felly’r gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru, i gael eu dwyn i rym heb fod cyn 1 Ebrill 2027 a heb fod ar ôl 1 Ebrill 2030.
 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth


Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 29 Medi 2025 gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (ar y pryd). Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 17 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.


Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd. 


Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026.
 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig


Asesiadau Effaith 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mai 2026