Skip to main content

Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026

Mae Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o broses ddiwygio ehangach “un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn” ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Mae Deddf 2026:

  • yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benderfynu ar y gwasanaethau bysiau lleol sy’n ofynnol at ddibenion trafnidiaeth ddiogel, integredig, gynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru, a’u sicrhau i’r graddau ag y bo’n rhesymol ymarferol;
  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru sy’n nodi nodweddion hanfodol y gwasanaethau y maent yn eu hystyried sy’n ofynnol i gyflawni’r ddyletswydd i sicrhau y darperir y gwasanaethau hynny;
  • yn creu darpariaethau rhannu data newydd a chyfundrefn sancsiynau newydd. Mae’r gyfundrefn sancsiynau yn gymwys i’r rhai sy’n gweithredu gwasanaethau bysiau lleol ac eithrio yn unol â’r Ddeddf, a’r rhai sy’n methu â chydymffurfio â’r darpariaethau rhannu data;
  • yn codi’r cyfyngiad ar awdurdodau lleol yn sefydlu eu cwmnïau bysiau eu hunain. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

 

Dod i rym

 

Mae adran 48 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2026 i rym.

Daeth y darpariaethau a ganlyn i rym ar 3 Chwefror 2026: 

  • adrannau 1 i 3,  5(6) a (7), 11,  14(2) a (3), 15(1) a (2),  27(3)(b), (4) a (5), 28(3)(b) a (4),  29(2) i (5), 30, 32(2)(b), (8), (9)(a)(i) a (9)(b)(i),  42 i 46,  48 a 49.

Daw adran 4 ac adran 21 i rym o 2 Ebrill 2026 (sef dau fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol).

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig. Nid oes yr un gorchymyn o’r fath wedi ei wneud hyd yma. 

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

 

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

 

Ystyriaeth y Senedd o'r ddeddfwriaeth

 

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 31 Mawrth 2025 gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 9 Rhagfyr 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 2 Chwefror 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026.

 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

 

Asesiadau effaith

Ein map ffordd i ddiwygio’r bysiau
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
25 Chwefror 2026