Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn dwyn ynghyd ddyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae’r Ddeddf, ynghyd â rheoliadau a chodau ymarfer a wneir oddi tani, yn darparu’r sylfaen i fframwaith statudol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru i gefnogi pobl o bob oed fel rhan o’u teuluoedd a’u cymunedau.
Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
- Llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’i anghenion wrth wraidd y gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddo er mwyn sicrhau’r canlyniadau sy’n hybu ei lesiant.
- Atal ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn cymunedau fel bod llai o bobl angen gofal critigol.
- Llesiant – cynorthwyo pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
- Cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran mewn cynllunio a darparu gwasanaethau.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth Rhan 1 ac adrannau 196 i 200 i rym ar 2 Mai 2014, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 199(1).
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 199(2).
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016
- Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015
- Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf:
Mae deddfwriaeth, codau a chanllawiau pellach a wneir o dan y Ddeddf wedi'u rhestru ym maes pwnc y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y safle. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfuno â'r dudalen hon maes o law.
Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn hwn:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cafodd y Bil ei gyflwyno ar 28 Ionawr 2013 gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Mawrth 2014.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
Trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | Gofal Cymdeithasol Cymru