Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026
Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’r dudalen hon ar YouTube: https://youtu.be/MybgaseHw10
Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn sefydlu fframwaith newydd er mwyn cefnogi ac annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yng Nghymru.
Mae Deddf 2026:
- yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hybu a hwyluso’r defnydd o IAP;
- yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Strategaeth IAP Genedlaethol sy’n disgrifio sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o IAP, a sut y maent yn bwriadu annog cyrff cyhoeddus penodol a restrir yn Neddf 2026 i wneud hynny;
- yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus rhestredig ynghylch sut y cânt hybu a hwyluso’r defnydd o IAP;
- yn gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus rhestredig i lunio a chyhoeddi cynlluniau IAP sy’n disgrifio sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau, a dilyn y canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;
- yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi cynghorydd IAP ac aelodau panel i gynorthwyo’r cynghorydd;
- yn gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus rhestredig a Gweinidogion Cymru i adrodd ar y cynnydd a wnaed.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi rhagor o fanylion am weithrediad y Ddeddf (darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael).
Dod i rym
Mae adran 11 yn darparu bod y Ddeddf gyfan yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth y Ddeddf i rym ar 28 Ebrill 2026.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi ei gwneud o dan y Ddeddf – bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru os bydd deddfwriaeth o’r fath yn cael ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 14 Gorffennaf 2025 gan Mark Isherwood AS, sef yr Aelod a oedd yn gyfrifol am Bil. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 11 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi ei ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026 (fersiwn Iaith Arwyddion Prydain): https://youtu.be/wXOIjMOAW-4
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026 - Nodiadau Esboniadol (fersiwn Iaith Arwyddion Prydain): https://youtu.be/8iRVWVK8hsc
