Skip to main content

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Nod Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yw gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy: 

  • gryfhau’r ddyletswydd ansawdd ar gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac estyn hyn i Weinidogion Cymru, drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau gwasanaeth iechyd gyda golwg ar wella ansawdd gwasanaethau iechyd drwyddi draw 
  • gosod dyletswydd ar holl gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i weithredu’n ddidwyll ar lefel sefydliadol, gan fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau pan fydd pethau’n mynd o chwith 
  • cryfhau llais dinasyddion mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, drwy sefydlu Corff Llais y Dinesydd newydd i Gymru i gynrychioli eu buddiannau. Mae’r corff hwn yn disodli’r Cynghorau Iechyd Cymuned  
  • cryfhau trefniadau llywodraethu Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy eu galluogi i benodi Is-gadeiryddion, yn yr un modd â’r byrddau iechyd. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwadau manwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym:

Daeth adrannau 29 a 30 o’r Ddeddf i rym ar 2 Mehefin 2020, sef y diwrnod ar ôl iddi dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 29. Mae adran 29(2) yn darparu bod gweddill y darpariaethau yn dod i rym pam fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi’u gwneud:

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 20232023 Rhif 299 (Cy. 44)9 Mawrth 20231 Ebrill 2023 heblaw am reoliadau 2, 9(5)(c), (e), (f) a (g), 9(6)(c), (e), (f) a (g) a 9(7)(c), sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2023.Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau'r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd (Cymru) 20232023 Rhif 274 (Cy. 41)7 Mawrth 20231 Ebrill 2023Memorandwm Esboniadol
Canllawiau Statudol ar Sylwadau a Gyflwynir gan Gorff Llais y Dinesydd 30 Mawrth 2023  

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Vaughan Gethin AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 17 Mehefin 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mehefin 2020.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Ebrill 2024