Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn gwneud darpariaeth ynghylch rheoleiddio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd yng Nghymru.
Mae Rhan 1 o Ddeddf 2025 yn ymwneud â gofal cymdeithasol, mae’n:
- gwneud diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) gyda’r bwriad o gyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu i dynnu elw allan;
- gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o sicrhau y gall Deddfau 2014 a 2016 weithredu’n llawn ac yn effeithiol.
Mae Rhan 2 o Ddeddf 2025 yn ymwneud â gofal iechyd ac mae’n gwneud diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 er mwyn galluogi i daliadau uniongyrchol gael eu cyflwyno o fewn Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Mae Rhan 3 o Ddeddf 2025 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf, dehongli, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol a throsiannol, a threfniadau dod i rym.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Mae adran 29 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dyfodiad Deddf 2025 i rym.
Daeth y darpariaethau a ganlyn i rym ar 25 Mawrth 2025 (drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol):
- yn Rhan 1, adrannau 1, 16, 21 a 22 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 3(b) o Atodlen 1), a pharagraffau 2(1) a (6), 3(b), 5(1) a (4), a 7(1), (3), (4), (14) a (15) o Atodlen 1;
- yn Rhan 2, adrannau 23 a 26;
- Rhan 3 i gyd.
Daw holl ddarpariaethau eraill Deddf 2025 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru, mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol neu offeryn statudol Cymreig.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
[I’w ychwanegu yn y dyfodol]
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 20 Mai 2024 gan Dawn Bowden AS, sef y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 4 Chwefror 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2025 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
- Cynhyrchodd Ymchwil y Senedd amrywiaeth o ddeunyddiau i egluro’r cynigion a gafwyd ym Mil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
- Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus, a lywiodd ddatblygiad y ddeddfwriaeth. Parodd yr ymgynghoriad o 17 Awst 2022 i 7 Tachwedd 2022.
- Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o asesiadau effaith ar y cynigion a gafwyd ym Mil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).