Skip to main content

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymdrin ag amrywiol faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar lywio’r amodau cymdeithasol sy’n annog iechyd da ac os oes modd, ar osgoi niwed i iechyd y gellir ei atal. 

Mae darpariaethau’r Ddeddf yn cynnwys:

  • strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â gordewdra, 
  • cyfyngiadau ar y defnydd o dybaco a chynhyrchion nicotin ac ar eu gwerthu, gan gynnwys cyflwyno troseddau newydd,
  • trwyddedu rhoi ‘triniaethau arbennig’ yng Nghymru (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio),
  • ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru ‘roi twll mewn rhan bersonol o’r corff’ i berson o dan 18 oed,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd,
  • ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal,
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ac ailddatgan y pŵer statudol presennol iddynt ddarparu toiledau yn eu hardal. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth adrannau 1, 120 i 125, 126 ac 127 o’r Ddeddf i rym ar 3 Gorffennaf 2017, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brehinol, yn unol ag adran 126(1). Daw gweddill y darpariaethau i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 126(2). Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 20202020 Rhif 1211 (Cy. 273)26 Hydref 20201 Mawrth 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 20192019 Rhif 1120 (Cy. 194)   11 Gorffennaf 20191 Awst 2019Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 7 Tachwedd 2016 gan Rebecca Evans AS, a oedd yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 16 Mai 2017.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Cyhoeddiad newydd: Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (senedd.cymru)

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
29 Ebrill 2024