Skip to main content

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn darparu y bydd isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol gan bersonau penodol yng Nghymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi am bris is na hynny ac yn sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol yn rhoi esboniad o ddarpariaethau unigol y Ddeddf, lle bo angen. 

Dod i rym:

Daeth adrannau 26 i 30 i rym ar 10 Awst 2018, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 28(2) o’r ddeddf yn darparu bod y darpariaethau eraill yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud: 

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020
 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 20192019 Rhif 1472 (Cy. 260)20 Tachwedd 20192 Mawrth 2020Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 23 Hydref 2017, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 19 Mehefin 2018.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Senedd Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.

Gwybodaeth ac erthyglau cysylltiedig: 

Sut i gyfrifo’r isafbris ar gyfer diod alcoholaidd

Mae'r Ddeddf yn cynnwys fformiwla y mae’n rhaid ei dilyn i gyfrifo'r isafbris perthnasol. Mae’r fformiwla yn cynnwys yr isafbris uned (MUP), sef 50c, canran cryfder yr alcohol, a’i gyfaint.

MUP (£0.5) x Cryfder (%) x Cyfaint (litrau) = yr isafbris y gellir ei werthu amdano.

Er enghraifft, yr isafbris ar gyfer potel o fodca 70cl o gryfder ABV 40% fyddai:

  • 50c (MUP) x 40 (Cryfder) x 0.7 (Cyfaint): 0.5 X 40 X 0.7 = £14:00

Yr isafbris am y botel hon o fodca fyddai £14.00. 

Mae ap ar gyfer yr isafbris uned ar gael ar Apple App Store ac Android Play Store. Gellir dod o hyd iddo trwy chwilio am ‘MUP Wales Calculator’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â: DeddfIaA.MUPAct@llyw.cymru

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023