Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Deddf 2016) yn sicrhau bod lefelau staff nyrsio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru (GIG Cymru) yn ddigonol i ddarparu gofal nyrsio diogel, effeithiol a safonol i gleifion bob amser drwy:
- gosod dyletswydd gyffredinol ar holl gyrff gwasanaethau iechyd GIG Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG) i roi sylw i bwysigrwydd sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ofalu’n sensitif am gleifion, boed hwy’n darparu’r gwasanaethau hynny eu hunain neu’n sicrhau gwasanaethau nyrsio gan eraill
- gosod dyletswydd ar holl gyrff gwasanaethau iechyd GIG Cymru (os ydynt yn darparu gwasanaethau nyrsio) i ddynodi personau i gyfrifo lefelau staff nyrsio diogel ac addas yn lleol
- gosod dyletswydd ar holl gyrff gwasanaethau iechyd GIG Cymru i gynnal y lefelau staffio hynny, mewn wardiau cleifion mewnol sy’n oedolion mewn ysbytai acíwt i ddechrau (mae’r ddyletswydd hon wedi ei hestyn i leoliadau eraill drwy reoliadau - gweler isod)
- gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ar y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a’r dull o gyfrifo’r lefelau hynny, gan sicrhau bod ffactorau fel dyletswyddau goruchwylio’r staff, sgiliau a phrofiad nyrsys a staff eraill sy’n darparu gofal, ac amgylchedd y ward, yn cael eu hystyried yn briodol
- gosod dyletswydd ar gyrff gwasanaethau iechyd GIG Cymru i adrodd i Lywodraeth Cymru ar gydymffurfio â’r gofynion o ran lefelau staff nyrsio ac unrhyw gamau a gymerwyd mewn ymateb i ddiffygion.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2016 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth Deddf 2016 i rym ar 21 Mawrth 2016, sef y diwrnod y cafodd y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 2(1). Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod adran 1 yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:
Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn) 2016
Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021 | 2021 Rhif 216 (Cy. 53) | 1 Mawrth 2021 | 1 Hydref 2021 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: canllawiau statudol (fersiwn 2) | 4 Mawrth 2021 | 4 Mawrth 2021 |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Kirsty Williams AC ar 1 Rhagfyr 2014. Roedd hi wedi llwyddo mewn pleidlais ddeddfwriaethol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2013 ac wedi cael caniatâd i symud ymlaen â'i Bil gan y Senedd (Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd) ar 5 Mawrth 2014. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (a oedd yn cael ei adnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Chwefror 2016.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Kirsty Williams AC (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). Lluniodd y Cynulliad y Crynodeb defnyddiol hwn o’r Bil hefyd.
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.