Skip to main content

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025

 

Bydd Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i godi ardoll ar ymwelwyr dros nos sy'n aros mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Bydd yr ardoll yn ddisgresiynol ei natur, gan mai mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a ddylid ei chyflwyno, ar ôl ymgynghori â'u cymunedau a busnesau lleol. Mae Deddf 2025 yn rhoi'r cyfrifoldeb i Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli'r ardoll ymwelwyr ar ran awdurdodau lleol.

Mae Deddf 2025 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru sefydlu cofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y mathau o lety ymwelwyr a'r lleoliadau y maent yn eu gweithredu ledled Cymru. Gall Awdurdod Cyllid Cymru sicrhau bod gwybodaeth a gedwir ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

 

Dod i rym

 

Mae adran 67 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2025 i rym.

Daeth Rhannau 1 a 3 (gan gynnwys Rhan 2 o Atodlen 2) a Rhan 4 i rym ar 19 Medi 2025 (y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol).

Daw Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 1 o Atodlen 2), a Phennod 1 o Ran 4 fel y mae'n gymwys mewn perthynas â'r gofrestr o dan Ran 2, i rym ar 1 Hydref 2026.

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

 

[I’w hychwanegu pan fydd wedi ei gwneud]

 

Ystyriaeth y Senedd o'r ddeddfwriaeth

 

Cyflwynwyd y Bil i'r Senedd ar 25 Tachwedd 2024 gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 8 Gorffennaf 2025, a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2025 ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy'r Senedd.

Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i'w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â'r Bil. Mae'r Memorandwm hwn bellach wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025.

 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

 

Yr ardoll ymwelwyr: cyfraniad bach ar gyfer etifeddiaeth barhaol | LLYW.CYMRU

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
07 Hydref 2025