Skip to main content

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad llywodraeth leol. 

Mae un o’r prif ddarpariaethau yn rhoi’r hawl i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau lleol. Mae hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sy’n caniatáu i’r categorïau hyn o bobl bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. 

Gall cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (sy’n cael eu galw’n ‘brif gynghorau’ bellach) hefyd ddewis pa system bleidleisio i’w defnyddio mewn etholiadau lleol – y cyntaf i’r felin neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Caiff etholiadau lleol eu cynnal bob 5 mlynedd yn awr, yn hytrach na phob 4 blynedd fel o’r blaen. 

Mae gan brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys bwerau ychwanegol, a elwir yn ‘bŵer cymhwysedd cyffredinol’. Golyga hyn nad oes raid iddynt glustnodi pwerau deddfwriaethol penodol i wneud pethau sydd er budd i’w cymunedau. 

Rhaid i bob prif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, sy’n nodi sut y bydd yn hybu ymwybyddiaeth ac yn cynyddu cyfranogiad mewn llywodraeth leol. Rhaid i brif gynghorau ac awdurdodau eraill ddarlledu eu cyfarfodydd hefyd. Rhaid i gynghorau cymuned roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd sy’n dod i’w cyfarfodydd wneud sylwadau. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol, sy’n amlinellu eu blaenoriaethau, eu gweithgareddau a’u cyraeddiadau yn ystod y flwyddyn. 

Mae Deddf 2021 yn nodi gofynion amrywiol o ran rolau a swyddogaethau swyddogion ac aelodau etholedig o awdurdod lleol, fel caniatáu i bobl mewn rhai swyddi penodol rannu swydd, a chaniatáu absenoldeb teuluol i aelodau o brif gynghorau. 

O dan Ddeddf 2021 caiff dau neu ragor o brif gynghorau sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, sydd â’u staff, eu asedau a’u trefniadau ariannol eu hunain. Yn 2021 gwnaed rheoliadau o dan y Ddeddf i sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor. Mae’r rhain wedi eu rhestru yn y tabl isod. 

Cyflwynodd Deddf 2021 system newydd o hunanasesiadau ac asesiadau perfformiad gan banel i sicrhau bod prif gynghorau yn gwella eu perfformiad a’u trefniadau llywodraethiant. Gall Gweinidogion Cymru ymyrryd i ddarparu cymorth a chefnogaeth os nad yw prif gyngor yn cyflawni ei ofynion o ran perfformiad. 

O dan y Ddeddf, gall dau brif gyngor neu ragor wneud cais i Weinidogion Cymru i uno’n wirfoddol, ar ôl iddynt ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid allweddol. 

Mae Deddf 2021 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol, yn bennaf i ddelio â’r rheini sy’n ceisio osgoi talu trethi annomestig, i ddileu carchariad fel cosb am beidio â thalu’r dreth gyngor, ac i eithrio dosbarthiadau penodol o bobl rhag gorfod ei dalu.

Yn olaf, mae’r Ddeddf yn cyflwyno detholiad o ddarpariaethau eraill sydd â’r nod o gryfhau a moderneiddio’r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu. 

Mae’r Papur Briffio hwn, a luniwyd gan y Senedd, yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwadau manwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym:

Mae adran 175(1) i (6) o Ddeddf 2021 yn darparu bod sawl adran o’r Ddeddf yn dod i rym ar ddiwrnodau penodedig. Daw gweddill y darpariaethau i rym pan fydd Gweinidogion Cymru wedi gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 20212021 Rhif 296 (Cy. 73)10 Mawrth 20211 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 2021 Rhif 327 (Cy. 85)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20212021 Rhif 328 (Cy. 86)17 Mawrth 202128 Chwefror 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 20212021 Rhif 339 (Cy. 93)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2022 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad 12 neu 13).
Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 20212021 Rhif 341 (Cy. 95)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 20212021 Rhif 342 (Cy. 96)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2021 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad 12 neu 13).     
Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 20212021 Rhif 343 (Cy. 97)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 28 Chwefror 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 28 Chwefror 2022 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan reoliad 11, 12 neu 13).
Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 20212021 Rhif 352 (Cy. 104)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022. 
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2021 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad 11, 12 neu 13).
Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 20212021 Rhif 356 (Cy. 107)18 Mawrth 20211 Mai 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 20212021 Rhif 1166 (Cy. 288)20 Hydref 20211 Tachwedd 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 20212021 Rhif 1349 (Cy. 348)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021, ar wahân i reoliadau 10, 27 a 31, a ddaeth i rym ar 6 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 20212021 Rhif 1350 (Cy. 349)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 20212021 Rhif 1355 (Cy. 353)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 20212021 Rhif 1360 (Cy. 356)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 20212021 Rhif 1359 (Cy. 355)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 20212021 Rhif 1361 (Cy. 357)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 20212021 Rhif 1364 (Cy. 359)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 20212021 Rhif 1403 (Cy. 365)9 Rhagfyr 20215 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 20222022 Rhif 140 (Cy. 44)16 Chwefror 202218 Chwefror 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 20222022 Rhif 188 (Cy. 62)25 Chwefror 202228 Chwefror 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 20222022 Rhif 533 (Cy. 125)1 Mai 202213 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 20222022 Rhif 355 (Cy. 88)22 Mawrth 20225 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 20222022 Rhif 263 (Cy. 79)9 Mawrth 202210 Mawrth 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 20222022 Rhif 372 (Cy. 92)23 Mawrth 202225 Mawrth 2022, ar wahân i reoliad 3(8) (adroddiadau blynyddol gan bwyllgorau safonau), a ddaeth i rym ar 6 Mai 2022.Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 20222022 Rhif 412 (Cy. 101)30 Mawrth 20225 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 20222022 Rhif 423 (Cy. 104)4 Ebrill 20225 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 20222022 Rhif 533 (Cy. 125)11 Mai 202213 Mai 2022Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 20222022 Rhif 797 (Cy. 175)13 Gorffennaf 202215 Gorffennaf 2022Memorandwm Esboniadol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 18 Tachwedd 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 18 Tachwedd 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Awst 2023