Skip to main content

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Mae darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn galluogi rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol ac yn cynnwys darpariaethau i hwyluso dau neu fwy o Brif Awdurdodau Lleol i uno’n fuan, o’u gwirfodd, erbyn mis Ebrill 2018. Roedd y Ddeddf hefyd yn diwygio’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol bresennol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (o ran Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus) a Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (o ran adolygiadau etholiadol).

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym:

Daeth y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 26 Tachwedd 2015, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 46(2)

Fodd bynnag, daeth adrannau 25 i 28 a 37 i 43 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 46(1).

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 26 Ionawr 2015 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 20 Hydref 2015.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Tachwedd 2015.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Ionawr 2024