Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac yn diwygio ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau.
Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol. Mae hefyd yn gosod dyletswyddau ar brif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol, gan gynnwys y weithdrefn a rhoi’r argymhellion ar waith.
Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol ac yn ymdrin â materion eraill sy’n ymwneud â chynnal llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 70 i 72 (ac Atodlen 3), a 75 a 76 i rym ar 30 Gorffennaf 2013, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 75(1).
Daeth Rhannau 2, 3 a 4, adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol.
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015
- Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil ar 26 Tachwedd 2012 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Lesley Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, i fod yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil o 18 Mawrth 2013 ymlaen.
Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Mehefin 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2013.