Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn darparu fframwaith i hybu llesiant pobl Cymru drwy wella datblygu cynaliadwy (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;
- dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015);
- dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015;
- diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru lewyrchus";
- dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael;
- gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;
- rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael.
Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adran 48 o'r Ddeddf i rym ar 25 Mai 2023, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 48(1) o'r Ddeddf. Bydd gweddill darpariaethau'r Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 48(2) a (3) o'r Ddeddf. Mae'r gorchmynion canlynol wedi'u gwneud:
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar 7 Mehefin 2022 a'i basio gan Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.