Skip to main content

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Mae Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn diddymu’r amddiffyniad o gosb resymol mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, boed hynny gan bobl sy’n byw yng Nghymru neu gan bobl sy’n ymweld â’r wlad.

Mae hyn yn golygu bod cosbi plant yn gorfforol bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru, yn cynnwys gan rieni, gan ofalwyr neu gan unrhyw un sy’n gweithredu in loco parentis, mewn unrhyw leoliad. Mae’n rhoi'r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag oedolion ac yn cael gwared â’r dryswch a arferai fodoli ynghylch yr hyn oedd yn gosb gorfforol ‘resymol’.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Crynodeb  hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd, ac mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 2, 3, 4, 5 a 6 i rym ar 21 Mawrth 2020 sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 5(1). Daeth adran 1 i rym ar 21 Mawrth 2022 (h.y. ar ddiwedd cyfnod o 2 flynedd gan ddechrau â'r diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol), yn unol ag adran 5(2).

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 25 Mawrth 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 28 Ionawr 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd, ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2. 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Cylchlythyr (llyw.cymru) (Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys dolenni i lawer o wybodaeth arall ddefnyddiol.)

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Awst 2023