Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 fel bod gan bobl sy’n rhentu cartref yng Nghymru o dan gontract meddiannaeth safonol sicrwydd deiliadaeth am o leiaf 12 mis. Ymysg pethau eraill, mae’n:
- cynyddu’r cyfnod rhybudd isaf y mae’n rhaid i landlord ei roi i ddod â contract meddiannaeth safonol i ben o dan yr hyn a elwir yn “droi allan heb fai” o 2 fis i 6 mis
- gosod cyfyngiadau ar roi rhybuddion penodol pan fo gofynion statudol penodol wedi eu torri
- cyfyngu ar yr amgylchiadau y gall y landlord amrywio contract safonol cyfnodol
- torri’r cysylltiad rhwng rhoi rhybudd i amrywio’r contract a rhoi rhybudd yn ceisio meddiannaeth.
Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio Deddf 2019 fel bod talu tâl gwasanaeth, a thalu am ddatganiad ysgrifenedig newydd o gontract meddiannaeth, mewn rhai amgylchiadau, yn daliadau a ganiateir at ddibenion Deddf 2019.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwadau manwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adrannau 15, 17, 19 a 20 i rym ar 8 Ebrill 2021, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 19(1). Mae adrannau 19(2) a (3) o’r Ddeddf yn darparu bod gweddill y darpariaethau yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (Cychwyn) 2022
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 | 2022 Rhif 143 (Cy. 46) | 16 Chwefror 2022 | 1 Rhagfyr 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 | 2022 Rhif 781 (Cy. 170) | 15 Gorffennaf 2022 | 1 Rhagfyr 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 | 2022 Rhif 799 (Cy. 176) | 13 Gorffennaf 2022 | 1 Rhagfyr 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 | 2022 Rhif 1258 (Cy. 256) | 30 Tachwedd 2022 | 30 Tachwedd 2022 | Memorandwm Esboniadol |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 10 Chwefror 2020, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 23 Chwefror 2021.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2021.