Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) 2019
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (y Ddeddf) yn gwahardd landlordiaid rhag codi amryw o ffioedd gosod ar denantiaid preswyl, fel ffioedd gweinyddu, a ffioedd geirda a gwiriad credyd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch blaendaliadau cadw ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i rai ffioedd y mae asiantau gosod yn eu codi.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym:
Daeth adrannau 30 a 31 o’r Ddeddf i rym ar 16 Mai 2019, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym yn unol ag adran 30(2) o’r Ddeddf, pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Cychwyn Rhif 1) 2019
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 | 2020 Rhif 202 (Cy. 45) | 28 Chwefror 2020 | 28 Ebrill 2020 | Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) |
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 | 2019 Rhif 1493 (Cy. 272) | 4 Rhagfyr 2019 | 10 Rhagfyr 2019 at ddiben rheoliad 2 a 28 Chwefror 2020 at bob diben arall. | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 (dirymwyd) | 2019 Rhif 1466 (Cy. 258) | 12 Tachwedd 2019 | 13 Rhagfyr 2019 | Memorandwm Esboniadol |
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (wedi ei ddirymu) | 2019 Rhif 1151 (Cy. 201) | 18 Gorffennaf 2019 | 1 Medi 2019 | Memorandwm Esboniadol |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd, ar 11 Mehefin 2018. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 27 Mawrth 2019.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 15 Mai 2019.