Skip to main content

Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Mae Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn diwygio deddfwriaeth flaenorol, yn enwedig Deddf Tai 1996, i ddiddymu’r elfennau o reolaeth gan y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a arweiniodd at benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn Gorfforaethau Cyhoeddus Anariannol. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael eu hailddosbarthu yn Gorfforaethau Preifat Anariannol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym:

Daeth adrannau 19 ac 20 i rym ar 14 Mehefin 2018, sef y diwrnod ar ôl i’r ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 19(2) o’r Ddeddf yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Daeth y gorchymyn a ganlyn â gweddill y darpariaethau i rym: 
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaeth Drosiannol) 2018

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 20182018 Rhif 870 (Cy. 171)18 Gorffennaf 201815 Awst 2018Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (ar y pryd), ar 16 Hydref 2017. Yna daeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Tai ac Adfywio (ar y pryd) yn Aelod â gofal am y Bil o 9 Tachwedd 2017. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 8 Mai 2018.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 13 Mehefin 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023