Skip to main content

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Mae Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gymryd meddiant o geffylau, merlod, mulod neu unrhyw anifeiliaid o dras ceffyl os ydynt yn pori’n anghyfreithlon, yn crwydro ar dir heb ganiatâd neu wedi eu gadael yn unman yng Nghymru. Pori’n anghyfreithlon yw pan fydd perchnogion anifeiliaid yn caniatáu, yn fwriadol neu’n esgeulus, i’r anifeiliaid yna bori ar dir heb ganiatâd perchennog y tir, neu os yw’r perchennog wedi tynnu ei ganiatâd yn ôl.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. 

Dod i rym:

Daeth y Ddeddf i rym ar 28 Ionawr 2014, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 10.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth: 

Cyflwynwyd y Bil gan Alun Davies AS, a oedd yn Weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd, ar 14 Hydref 2013. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Rhagfyr 2013.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Lluniodd Llywodraeth Cymru y canllaw hwn i awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2014 ar weithredu'r Ddeddf. 
 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Awst 2023