Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn diwygio pwerau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru, a chyrff eraill mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer canllawiau gwella ysgolion, trefniadau trefniadaeth ysgolion, cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a darpariaethau amrywiol eraill. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae 6 Rhan i’r Ddeddf. Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chynnal a gwella safonau mewn ysgolion a gynhelir, ac yn y modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdodau lleol, gan gynnwys ymyrryd mewn achosion sy’n peri pryder.
Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth am drefniadaeth ysgolion a gynhelir, gan gynnwys yr angen am God Trefniadaeth Ysgolion.
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd i’w paratoi gan awdurdodau lleol, i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, ac i’w cyhoeddi a’u gweithredu gan awdurdodau lleol.
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau amrywiol sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir.
Mae Rhan 6 yn cyflwyno Atodlen 5, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall sy’n codi o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 100 a 101 i rym ar 5 Mawrth 2013, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 100(1).
Daeth adrannau 88 i 90 a 92 i 93 i rym ar 1 Ebrill 2013, yn unol ag adran 100(2).
Daeth y darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y derbyniodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 100(3):
- Pennod 3 o rhan 2; adran 91;
- adrannau 94 a 95;
- paragraffau 31, 33, 34(1) a (3), 35 a 36 o Rhan 3 o Atodlen 5 (ac adran 99 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn, yn unol ag adran 100(4). Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014
- Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 3) 2013
- Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013
- Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan ar 23 Ebrill 2012 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 15 Ionawr 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd ac yn y Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Mawrth 2013.