Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014
Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru,
- gwneud gorchmynion sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer personau a gyflogir mewn amaethyddiaeth yng Nghymru (“gweithwyr amaethyddol”), a
- gorfodi’r telerau a’r amodau hynny.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Yn unol ag adran 19 daeth darpariaethau'r Ddeddf hon i rym ar 30 Gorffennaf 2014, (y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).
Is-deddfwriaeth sydd wedi wneud o dan y Ddeddf:
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:
Cafodd y Bil hwn ei gyflwyno fel Bil brys ar 8 Gorffennaf 2013 gan Alun Davies AS, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd.
Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Senedd yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Senedd Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:
“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”
Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 17 Gorffennaf 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil).
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014.